Bag melyn (cewynnau a gwastraff hylendid oedolion)

Gwasanaeth casglu cewynnau a gwastraff hylendid oedolion

Gall trigolion sydd â phlant mewn cewynnau, ac oedolion sydd â gwastraff hylendid, wneud cais am fagiau cryf, fydd yn cael eu casglu ar yr un diwrnod â’ch bin a chlawr porffor.

Bydd angen i drigolion ddangos tystiolaeth eu bod yn byw yn Nhorfaen (ee bil cyfleustodau), yn ogystal â chopi o dystysgrif pob plentyn fydd yn cael ei gofrestru ar y cynllun.

Gofyn am gasgliad cewynnau neu wastraff hylendid oedolion

Beth fydd yn cael ei gasglu yn fy magiau melyn?

  • Cewynnau tafladwy
  • Pob math a maint
  • Pants dysgu a chewynnau y gellir eu tynnu i fyny
  • Pants nofio
  • Eitemau sy’n cael eu defnyddio wrth newid cewynnau fel cadachau sychu, sachau cewynnau a gwlân cotwm
  • Cynnyrch anymataliaeth
  • Padiau, pants a chydiau o bob math a maint
  • Cathetrau, stoma / bagiau colostomi a thiwbiau gwag
  • Padiau cadeiriau tafladwy a phadiau gwelyau tafladwy, leinin a phadellau

Cysylltwch â ni os nad yw'r math o gynnyrch anymataliaeth rydych chi'n ei ddefnyddio wedi'i restru uchod.

Bydd fydd ddim yn cael ei gasglu yn fy magiau melyn?

  • Gwastraff glanweithiol (tywelion glanweithiol neu tamponau) – rhowch hwy yn bin â chlawr porffor
  • Gwastraff clinigol heintus, nodwyddau, eitemau miniog a chwistrellau, gwastraff meddygol neu glinigol - siaradwch â'ch Bwrdd Iechyd lleol, tîm nyrsys ardal neu ffoniwch Wasanaeth 111 y GIG
  • Baw anifeiliaid
  • Gwelyau anifeiliaid – Gellir rhoi ychydig bach yn y bin â chlawr porffor, neu gall fod yn addas i’w gompostio gartref
  • Castiau plastr
  • Plastrau, swabiau meddygol a gorchuddion – rhowch hwy yn y bin â chlawr porffor
  • Blancedi a dillad wedi'u baeddu – rhowch hwy yn y bin â chlawr porffor

Ar ba ddiwrnod fydd fy magiau yn cael eu casglu?

Defnyddiwch ein system i ganfod eich diwrnod casglu gwastraff/ailgylchu.

Casgliadau a fethwyd

Os na gafodd eich bagiau cewynnau eu casglu ni fyddwn yn dychwelyd i’w casglu oni bai bod:

  • Anhawster i gael mynediad oherwydd gwaith ffyrdd, digwyddiad mawr neu dywydd garw fel eira
  • Casgliad â chymorth a fethwyd

Ni fydd y cyngor yn dychwelyd am unrhyw reswm arall tan eich diwrnod casglu nesaf.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r bagiau fod allan cyn 7am ar eich diwrnod casglu a dylid eu gosod yn y man lle mae’r eiddo yn cwrdd â’r palmant (neu yn eich man casglu pwrpasol).

Mae angen mwy o fagiau melyn arnaf, beth alla i ei wneud?

Mae bagiau melyn ar gael i'w casglu'n rhad ac am ddim yn:

  • Gofal Cwsmeriaid Blaenafon, Canolfan Feddygol Blaenafon, Middle Coed Cae Road (dydd Llun i ddydd Gwener 8am – 6.30pm)
  • Eglwys Noddfa, Abersychan (ffoniwch 01495 448902 i gael gwybod yr oriau agor)
  • Trac 2, Siopau Trefddyn, Trefddyn (dydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 4pm)
  • Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl (dydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 5pm)
  • Panteg House, Greenhill Road, Tref Gruffydd (ffoniwch 01495 763605 (i gael gwybod yr oriau agor)
  • The Coffee Bar, Woodland Road, Croesyceiliog (dydd Llun i ddydd Gwener 9am-3pm)
  • Canolfan Gymuned Threepenny Bit, Dôl Werdd (ffoniwch i gael gwybod yr oriau agor 01633 869227)
  • Hwb CoStar, 2 Fairwater Square, Siopau Fairwater (dydd Llun i ddydd Iau 9.30am - 4pm, dydd Gwener 9.30am -1.30pm)
  • Llyfrgell Cwmbrân 
  • Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd
Diwygiwyd Diwethaf: 13/10/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig