Bin Gwyrdd

Pa mor aml mae'r bin gwyrdd yn cael ei wacáu?

Mae'r bin gwyrdd ar gyfer gwastraff gwyrdd o’r ardd yn cael ei wacáu bob pythefnos (Mawrth i Dachwedd).

Beth sy'n mynd yn y bin gwyrdd ar olwynion?

Ie, os gwelwch yn dda

  • Gwastraff o'r ardd
  • Toriadau glaswellt
  • Dail
  • Toriadau gwrychoedd a brigau bach
  • Planhigion a blodau meirw
  • Gwelyau cwningod, moch cwta, anifeiliaid anwes bach sy’n llysysyddion

Dim diolch

  • Gwastraff bwyd (defnyddiwch eich cadi brown)
  • Pridd
  • Rwbel
  • Gwastraff/Baw anifeiliaid anwes
  • Darnau mawr o bren
  • Cardbord
  • Bagiau plastig
  • Canclwm Japan

Ni fyddwn yn casglu'ch bin gwyrdd os bydd yn cynnwys unrhyw sbwriel sydd wedi'i restru uchod. Tynnwch y sbwriel a'i roi yn eich bin â chlawr porffor.

Pa ddiwrnod fydd fy ngwastraff gwyrdd o’r ardd yn cael ei gasglu?

Defnyddiwch ein system mapio i gael gwybod eich diwrnod casglu gwastraff/ailgylchu.

Casgliadau a fethir

Os oedd eich bin yn y man casglu erbyn 7.00am ar y diwrnod casglu, ond ni chafodd ei wacáu, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy lenwi’r ffurflen i rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd a byddwn y trefnu i’w gasglu cyn gynted â phosibl

Roi gwybod am gasgliad a fethwyd

Angen bin gwyrdd newydd?

Gofyn am fin gwyrdd newydd yma.

Gofyn am fin gwyrdd newydd

Beth sy’n digwydd i’r gwastraff gwyrdd o’r ardd?

Bydd eich gwastraff o’r ardd yn cael ei gludo i gyfleuster sy’n ei droi’n gompost ar gyfer y byd amaethyddiaeth.

I ble mae fy ngwastraff gwyrdd o’r ardd yn mynd?

Fe gewch wybod i ble mae eich gwastraff gwyrdd o’r ardd yn mynd drwy glicio ar Fy Ailgylchu Cymru

Diwygiwyd Diwethaf: 17/11/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig