Bag Glas

Pa mor aml mae’r bag glas yn cael ei gasglu?

Mae’r bagiau glas yn cael ei gasglu bob wythnos.

Beth sy'n mynd yn y bag glas?

Ie, os gwelwch yn dda

  • Bocsys grawnfwyd
  • Unrhyw ddeunydd pacio cardbord
  • Tiwbiau cardbord
  • Bocsys wyau
  • Cardiau cyfarch
  • Cardbord rhychiog
  • Papur pacio neu bapur parsel brown
  • Bagiau papur brown neu lwyd
  • Papur crefft brown neu lwyd
  • Gorchuddion llyfrau nodiadau brown neu lwyd

Dim diolch

  • Mewnosodiadau plastig
  • Cynhwysyddion Tetra Pak
  • Cerdyn â ffoil arno
  • Polystyren
  • Papur lapio

Awgrymiadau

  • Labelwch eich bag fel bad yw’n mynd ar goll
  • Gwasgwch eich cardbord yn wastad i greu mwy o le yn y bag

Ar ba ddiwrnod caiff fy mag ei gasglu?

Defnyddiwch ein system fapio i ddod o hyd i’ch diwrnod casglu gwastraff/ailgylchu.

Casgliadau a fethwyd

Os oedd eich bag yn y man casglu erbyn 7.00am ar y diwrnod casglu, ond ni chafodd ei wacáu, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy lenwi’r ffurflen i roi gwybod am gasgliad a fethwyd a byddwn y trefnu i’w gasglu cyn gynted â phosibl

Roi gwybod am gasgliad a fethwyd

Mae gen i ormod o gardbord i fy mag glas, beth allaf ei wneud?

Gallwn rhoi ail fag i chi. Nid ydym yn cludo sachau neu flychau ailgylchu newydd atoch chi ond gallwch eu casglu am ddim o un o’n hybiau:

  • Gofal Cwsmeriaid Blaenafon, Canolfan Feddygol Blaenafon, Middle Coed Cae Road (Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am – 6.30pm)
  • Eglwys Noddfa, Abersychan (ffoniwch 01495 448902 am amserau agor)
  • Trac 2, Siopau Trefddyn, Trefddyn (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 4pm)
  • Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 5pm)
  • Tŷ Panteg, Greenhill Road, Tref Gruffydd (ffoniwch 01495 763605 am amserau agor)
  • The Coffee Bar, Woodland Road, Croesyceiliog (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am-3pm)
  • Canolfan Gymunedol y Pishyn Tair, Y Ddôl Werdd (ffoniwch am amserau agor 01633 869227)
  • Hwb CoStar, 2 Fairwater Square, Siopau Fairwater (Dydd Llun i Ddydd Iau 9.30- 4pm, Dydd Gwener 9.30am -1.30pm)
  • Llyfrgell Cwmbrân 
  • Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn y Dafarn Newydd 

Beth sy’n digwydd i fy nghardbord?

Rydym yn mynd â'ch cardbord i brosesydd lle mae'r cerdyn yn cael ei brosesu i greu deunydd pacio unigryw, arddangosfeydd a chynhyrchion. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau pacio â glud, deunyddiau pacio nwyddau peryglus, cetris glud a selwyr, pecynnau cymysg, paledau rhychog a deunydd pacio cryf.

I ble mae fy eitemau ailgylchu yn mynd?

Fe gewch wybod i ble mae eich eitemau ailgylchu yn mynd drwy glicio ar Fy Ailgylchu Cymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/12/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig