Bin â Chaead Porffor

Pa mor aml mae’r bin â chlawr porffor yn cael ei gasglu?

Mae’r bin a chlawr porffor yn cael ei gasglu bob pythefnos, a hynny ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu na’i gompostio.

Beth sy'n mynd yn y bin â chlawr porffor?

Ie, os gwelwch yn dda

Sbwriel bob dydd nad oes modd ei ailgylchu na'i gompostio, fel: 

  • Lludw oer
  • Gwastraff anifeiliaid anwes
  • Gwydr toredig
  • Polystyren
  • Papur lapio

Dim diolch

  • Unrhyw beth y gellir ei ailgylchu
  • Gwastraff bwyd
  • Gwastraff yr ardd
  • Cerrig, rwbel, pridd neu ddeunyddiau adeiladu
  • Darnau neu fatris ceir
  • Olew, paent neu gemegau
  • Tecstilau/dillad
  • Canghennau coed
  • Deunyddiau asbestos
  • Lludw poeth
  • Unrhyw beth sy'n rhy fawr i fynd i'r bin yn rhwydd
  • Gwastraff clinigol neu nodwyddau hypodermig
  • Gwrthrychau gwydr mawr
  • Unrhyw beth peryglus

Nid ydym yn casglu sbwriel ychwanegol sy'n cael ei adael allan wrth ochr eich bin â chlawr porffor, nac yn gwacáu eich bin os yw'r caead ar agor.

Awgrymiadau

Ewch ati i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu eich gwastraff cymaint ag y medrwch cyn rhoi eitemau yn y bin a chlawr porffor. Bydd hyn eich helpu i gael mwy i mewn i’r bin.

Ar ba ddiwrnod caiff fy min ei gasglu?

Defnyddiwch ein system fapio i ddod o hyd i’ch diwrnod casglu gwastraff/ailgylchu.

Bin a fethwyd

Os na chafodd eich bin â chlawr porffor ei gasglu ni fyddwn yn dychwelyd i’w gasglu ac eithrio’r rhesymau a ganlyn

  • Diffyg mynediad oherwydd gwaith ar y ffyrdd, achos difrifol neu dywydd garw fel eira
  • Cofnod yn dweud bod y bin wedi ei ddifrodi ac nad oedd modd ei gasglu
  • Casgliad â chymorth ydoedd

Ni fydd y cyngor yn dychwelyd tan eich casgliad nesaf am unrhyw reswm arall.

Mae hyn golygu bod angen i’r biniau fod allan cyn 7am ar y diwrnod casglu, a’u bod yn cael eu rhoi mewn man lle mae eich eiddo yn cwrdd â’r palmant (neu mewn man a ddynodwyd ar eich cyfer).

Cael bin newydd â chlawr porffor 

Codir tâl o £5 ar drigolion am ddarparu bin â chlawr porffor newydd oni bai bod y bin wedi torri neu ei ddifrodi yn ystod y casgliadau.

Er mwyn lleihau’r perygl o golli biniau neu finiau’n cael eu dwyn, argymhellir bod trigolion i nodi rhif ar eu biniau neu nodi marc personol. Mae hyn yn ei wneud yn haws i’r criwiau ddychwelyd y biniau i’r lle cywir.

Os bydd eich bin yn cael ei dorri yn ystod y casgliad, bydd y criw yn gwneud cofnod o hyn drwy ddefnyddio system tracio a byddwch yn derbyn cerdyn drwy eich drws yn rhoi gwybod bod un arall wedi cael ei archebu. Ni chodir tâl am amnewid biniau ailgylchu.

Gofyn am fin porffor newydd

Codir tâl o £61.30 ar ddatblygwyr am gyfres lawn o gynwysyddion ailgylchu/gwastraff.

Beth sy’n digwydd i’r gwastraff yn fy min â chlawr porffor ar ôl iddo gael ei gasglu?

Mae unrhyw ddeunyddiau sy’n cael eu gosod yn y bin â’r caead porffor yn mynd i'r gwaith Ynni o Wastraff (EFW). Mae'n bwysig ein bod yn cydweithio â'n gilydd i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint â phosibl.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/11/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig