Cynllun Trwydded Faniau

Beth yw'r Cynllun Trwydded Faniau?

Rhaid i faniau ac ôl-gerbydau gael trwydded i'w galluogi i ymweld â'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref. Gallant ymweld â'r safle yn y Dafarn Newydd pob dydd rhwng 1.30pm-2.30pm. Yn wahanol i’r system bwcio ceir, gall trigolion â faniau/ôl-gerbydau archebu slot amser dim ond trwy ffonio Galw Torfaen ar 01495 762200.

Mae yna dâl gweinyddol o £5.60 am bob trwydded fan ac ôl-gerbydau. Mae pob trwydded yn rhoi hawl ichi gael un ymweliad â'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref. Gall pob cartref wneud cais am hyd at 10 trwydded y flwyddyn.

Os nad ydych wedi archebu slot, ni fyddwch yn cael mynediad i’r safle. Rydym am sicrhau bod pawb sydd angen ymweld â'r safle yn gallu gwneud a dim ond os yw pawb yn dilyn y rheolau y bydd hyn yn digwydd.

Mae trwyddedi ar gyfer trigolion Torfaen yn unig. Bydd gwasanaethydd y safle yn gwirio eich trwydded pan fyddwch yn cyrraedd y safle, yn ogystal â thystiolaeth o'ch cyfeiriad, er enghraifft bil cyfleustodau diweddar, er mwyn sicrhau bod y gwastraff yn dod o'ch cartref chi.

Pam y mae angen Trwydded?

Bwriad yr drwydded yw atal defnydd anghyfreithlon o'r safle ar gyfer gwaredu gwastraff masnach. Os byddwch yn dod â'ch gwastraff i'r safle mewn cerbyd masnachol neu mewn trelar heb drwydded, ni fyddwch yn cael gadael eich gwastraff.

Sut ydw i'n cael Trwydded?

Gall trigolion â faniau neu ôl-gerbydau archebu slot amser dim ond trwy ffonio Galw Torfaen ar 01495 762200. Rhaid bwcio hyd at 7 diwrnod o flaen llaw felly os oes gennych ddyddiad penodol mewn golwg, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cynllunio pryd i archebu lle. Mae amserau’n cael eu bwcio ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu.

Mae’r safle ar agor 7 diwrnod yr wythnos a bydd yn gweithredu slotiau hanner awr ar gyfer faniau ac ôl-gerbydau rhwng 1.30pm - 2.30pm.

A oes rhaid i mi wneud cais am drwydded ar gyfer pob ymweliad?

Mae pob trwydded yn caniatáu i chi ymweld â'r safle unwaith. Wedi i chi ddefnyddio'r ymweliadau hyn, bydd angen i chi ailymgeisio er mwyn ymweld â'r safle eto. Gall pob cartref wneud cais am hyd at 10 trwyddedau y flwyddyn.

Mae gennyf gerbyd gwersylla, a oes angen i mi wneud cais am hawlen?

Nac oes, nid yw'r cynllun yn berthnasol i geir preifat, ceir ystad, cerbydau 4 x 4, cerbydau cludo teulu na cherbydau gwersylla.

Beth os ydw i'n hurio cerbyd i gael gwared â gwastraff y cartref ar fyr rybudd?

Bydd dal angen trwydded arnoch  cyn y gallwch ddefnyddio'r safle. Pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded, byddwn yn gofyn am fanylion y cerbyd y byddwch yn ei yrru ac am ba hyd yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio. Ni all y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref gyhoeddi trwyddedau. Ar gyfer cerbydau wedi'u hurio, bydd angen i chi fynd â'ch Cytundeb Hurio (ynghyd â thystiolaeth o bwy ydych) sy'n dangos mai chi sydd wedi hurio'r cerbyd.

A oes cyfyngiad ar faint o wastraff y gallaf ddod ag ef i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref?

Oes, cewch ddod â hyd at dunnell o wastraff yn unig i'r safle fesul ymweliad. Gallai cerbydau sydd dros eu pwysau gael eu gwrthod neu gallant dalu ger y bont bwyso.

Nid yw meintiau mawr o rwbel a gwastraff adeiladu/dymchwel yn cael eu hystyried yn wastraff y cartref, ac ni chaiff y rhain eu derbyn.

Os oes gennych feintiau mawr o wastraff adeiladu/dymchwel, rydym yn eich cynghori i ddefnyddio gwasanaeth sgipiau neu gontractwr gwastraff.

Rhaid i rwbel a phridd fod mewn bagiau neu gynwysyddion priodol.

A allaf ddod ag oergelloedd ac eitemau mawr y cartref i'r safle?

Cewch, os yw'n well gennych ddod â gwastraff swmpus o'r cartref i'r safle yn hytrach na defnyddio ein gwasanaeth casglu gwastraff swmpus o'r cartref. Ewch i dudalen y Gwasanaeth Casglu Eitemau Swmpus o'r Cartref am ragor o wybodaeth.

A allaf wneud cais am drwydded i grefftwyr sy'n gweithio ar fy nhŷ?

Na,mae'n rhaid i'r cerbyd gael ei yrru gan y sawl sydd wedi gwneud cais am y drwydded. Nid ellir gwneud ceisiadau ar ran pobl eraill, fel crefftwyr sy'n cael eu cyflogi gennych i wneud gwaith. Rhaid talu am y gwastraff hwn – os byddwch chi'n cael gwared â gwastraff masnach ar y safle heb dalu, byddwch yn torri'r gyfraith.

Pryd mae'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor?

Ewch i dudalen y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i gael manylion am yr oriau agor a'r eitemau sy'n cael eu derbyn ar y safle. 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/04/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig