Asesiad Amgylcheddol Strategol

Mae Deddfwriaeth y DU ac Ewrop yn ei gwneud yn ofynnol bod y Strategaeth Leol yn destun Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS), proses sy'n ystyried effeithiau cynlluniau ar yr amgylchedd. Mae cyfarwyddyd gan y Llywodraeth yn amlinellu nifer o gamau o waith AAS y mae angen eu cwblhau wrth i’r Strategaeth Leol gael ei pharatoi:

  • Cam A: Gosod cyd-destun a Chwmpas
  • Cam B: Datblygu Dewisiadau ac Asesu Effeithiau
  • Cam C: Paratoi’r Adroddiad Amgylcheddol
  • Cam D: Ymgynghori ar y Cynllun a’r Adroddiad Amgylcheddol
  • Cam E: Monitro a Gweithredu’r Cynllun

Paratowyd y ddogfen hon ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (CBST) fel rhan o'r Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) o Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol (Strategaeth Leol) CBST. Cafodd ei chynhyrchu yn unol â Rheoliadau’r AAS ac fel sy'n ofynnol gan Gyfarwyddeb yr AAS. Diben yr Adroddiad Amgylcheddol yw nodi, gwerthuso a chyflwyno gwybodaeth ar effeithiau sylweddol tebygol y Strategaeth Leol.

Lawrlwythwch gopi o'r Asesiad Amgylcheddol Strategol yma

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig