Parcio ym Mhont-y-pŵl

Ynghyd â meysydd parcio un llawr, gweithredwn 2 faes parcio aml-lawr ym Mhont-y-pŵl, sef y Ganolfan Ddinesig a Riverside.

Er nad oes rhaid i chi dalu i ddefnyddio'r meysydd parcio hyn, mae cyfyngiadau aros o 4 awr o fewn rhannau ohonynt a chynghorir gyrwyr i ddarllen yr arwyddion lleol i weld pa rannau yw'r rhain. 

Mae gorchmynion meysydd parcio yn eu lle i reoli defnyddio meysydd parcio ar draws Torfaen ac yn benodol y lleoliadau hynny â chyfyngiadau aros penodol, fel meysydd parcio Riverside, y Ganolfan Ddinesig a Rosemary Lane.

Lle mae mannau parcio i bobl anabl, mae'r rhain ar gyfer pobl anabl yn unig. Rhaid i yrwyr sy'n defnyddio'r cyfleusterau hyn sicrhau eu bod yn arddangos disg cloc amser i ddangos eu hamser cyrraedd.

Yn ogystal, mae'n rhaid parcio'n gyfan gwbl o fewn marciau'r lle parcio. 

Gall methu â chydymffurfio â'r amodau hyn arwain at gamau fel cyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb.

Meysydd Parcio ym Mhont-y-pŵl

Mae meysydd parcio cyhoeddus y Cyngor ar agor i'r cyhoedd ond mae'n bosibl y byddant ar gau ar adegau penodol yn unol ag oriau gweithredu sy'n cael eu hysbysebu'n lleol neu ar adegau arbennig y byddwn yn penderfynu arnynt. 

Maes Parcio Aml-lawr Glan yr Afon

(y gallwch fynd ato o Lan yr Afon Pont-y-pŵl)
Oriau agor: Llun - Sadwrn 7:00 am – 9:15 pm a Sul 9:00 am – 5:00 pm
Lleoedd: Arhosiad hir a byr (4 awr) - 18 lle i'r anabl
Cyfyngiadau: 4 awr o barcio ar rai lloriau 

Maes Parcio Aml-lawr y Ganolfan Ddinesig

(Lefel 1, canolig a lefel 2) (y gallwch fynd atynt o Heol Glantorfaen, Pont-y-pŵl)
Oriau agor: Llun - Sadwrn
Lleoedd: 145 o leoedd arhosiad byr (4 awr)
Cyfyngiadau: 4 awr o barcio (dim dychwelyd o fewn 4 awr) 

Maes Parcio Rosemary Lane

(y gallwch fynd ato o Park Road Pont-y-pŵl)
Oriau agor: Llun - Sul
Lleoedd: 22 o leoedd arhosiad byr (2 awr) - 1 lle i'r anabl
Cyfyngiadau: 2 awr o barcio ym mhob bae (dim dychwelyd o fewn 2 awr) 

Canolfan Byw Egniol Pont-y-pŵl

(y gallwch fynd ati o Stryd Trosnant, Pont-y-pŵl)
Oriau agor: Llun - Sul
Lleoedd: 136 o leoedd arhosiad hir - 12 lle i'r anabl

Maes Parcio Clarence Corner

(y gallwch fynd ato o Stryd Trosnant, Pont-y-pŵl)
Oriau agor: Llun - Sul
Lleoedd: 46 o leoedd arhosiad hir  - 8 o leoedd arhosiad byr (4 awr) - 2 le i'r anabl

Maes Parcio Stryd Trosnant Uchaf

(y gallwch fynd ato o Stryd Trosnant, Pont-y-pŵl)
Oriau agor: Llun - Sul
Lleoedd: 17 o leoedd arhosiad hir - 1 lle i'r anabl

Maes Parcio Stryd Trosnant Isaf

(y gallwch fynd ato o Stryd Trosnant, Pont-y-pŵl)
Oriau agor: Llun - Sul
Lleoedd: 19 o leoedd arhosiad hir

Maes Parcio'r Hen Felin (Stryd Trosnant)

(y gallwch fynd ato o Stryd Trosnant, Pont-y-pŵl)
Oriau agor: Llun - Sul (6:45am-9:30pm)
Lleoedd: 197 o leoedd arhosiad hir

Maes Parcio Park Terrace

Oriau agor: Llun - Sul (7am-7pm)
Lleoedd: 30 o leoedd arhosiad hir

Meysydd parcio eraill i siopwyr

Caiff y cyfleusterau parcio canlynol eu rheoli'n breifat ac mae'n bosibl y bydd rhaid talu am eu defnyddio.

  • Tesco Pont-y-pŵl
Diwygiwyd Diwethaf: 19/12/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

 

Nôl i’r Brig