Monitro Cyflenwad Tai CDLl Torfaen

Hyd at fis Mawrth 2020, yr arfer oedd cyhoeddi ‘Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir’ dan Nodyn Technegol 1 (TAN 1) Llywodraeth Cymru ar CAT i fonitro cyflenwad tai yn y CDLl a fabwysiadwyd gan Dorfaen. Fodd bynnag, yn dilyn Adolygiad gan Lywodraeth Cymru ar ‘Gyflenwi Tai trwy'r System Gynllunio', cyhoeddodd y Gweinidog ddirymiad TAN1 a newidiadau i'r adran 'Cyflenwi Tai' ym Mholisi Cynllunio Cymru (PPW11) a'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (DPMv3) ym mis Mawrth 2020

Fe wnaeth y newidiadau hyn gael gwared ar ofyniad polisi pum mlynedd, cyflenwad tir ar gyfer tai, a rhoi datganiad polisi yn ei le yn ei gwneud yn benodol mai’r taflwybr tai, fel y nodir yn y CDLl a fabwysiadwyd, fydd y sylfaen ar gyfer monitro cyflawni gofynion tai cynllun datblygu fel rhan o Adroddiad Monitro Blynyddol y CDLl (AMB); gyda'r DPMv3 newydd yn darparu canllawiau ychwanegol ar y broses o fonitro yn erbyn y taflwybr tai. O dan y diwygiadau hyn, defnyddir methodoleg Gofyniad Blynyddol Cyfartalog (GBC) ar gyfer monitro cyflenwi tai yn y CDLl a fabwysiadwyd ar gyfer Torfaen; a bydd y dull Cyfradd Adeiladu Flynyddol a Ragwelir (CAFR) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer monitro'r CDLl Newydd yn y dyfodol.

Mae AMB CDLl Torfaen 2023 yn cynnwys y data monitro cyflenwi tai diweddaraf ar gyfer 2022-23; yr ydym wedi'i atgynhyrchu yn y detholiad atodedig er hwylustod i chi:

Diwygiwyd Diwethaf: 02/11/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Polisi a Gweithredu Cynllunio

Ffôn: 01633 648140

E-bost: ldp@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig