Cynllun Datblygu Lleol Newydd Torfaen

Cytundeb Cyflenwi (CC)

Ar ôl cymeradwyaeth gan y Cyngor ar 18fed Gorffennaf 2023, cymeradwywyd y Cytundeb Cyflenwi ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd Torfaen (CDLl), 2022-2037 gan Lywodraeth Cymru mewn llythyr dyddiedig 20fed Gorffennaf 2023. Mae’r Cynllun Cyflenwi yn cyflwyno amserlen ar gyfer cynhyrchu’r Cynllun, gan gynnwys pryd y byddwn ni’n â rhanddeiliaid yn ystod camau amrywiol; a Chynllun Cyfranogiad Cymunedol, Mae Crynodeb Gweithredol dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) hefyd wedi cael eu paratoi.

Cymerwch Ran

Os hoffech chi gael gwybod am gynnydd y CDLl newydd (2022-2037) / dogfennau cysylltiedig a’r canllawiau cynllunio atodol, gan gynnwys y broses Safleoedd Ymgeisiol a’r ymgynghoriadau wedyn, cofrestrwch eich diddordeb yma. Nodwch os gwelwch yn dda, bydd pob gwybodaeth bersonol a ddatgelir i ni’n cael ei phrosesu’n unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Datblygu Lleol sy’n esbonio sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth a bydd yn cael ei chadw dim ond yn ein cronfa ddata ymgynghoriad am gyfnod y broses o baratoi’r Cynllun.

Y Cam Nesaf: Ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd a’r dogfennau cysylltiedig

Yn dilyn ymarfer cyhoeddus yr ‘Alwad am Safleoedd Ymgeisiol’, a oedd ar waith am 8 wythnos rhwng mis Awst a mis Medi 2023, y cam ffurfiol nesaf fydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ‘Gynllun Datblygu Lleol Newydd Torfaen’ (2022-2037): Y Strategaeth a Ffefrir’ a’r Arfarniad o Gynaliadwyedd (AG) / Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS)’ a’r ‘Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd’ (ARhC) cysylltiedig, a ddisgwylir ganol 2024.

Ar yr un pryd, bydd y Cyngor hefyd yn ymgynghori ar y ‘Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol’ sydd wedi dod i law, a fydd yn cynnwys eu ‘Hasesiadau Lefel Uchel – Cam 1’ ac yn cynnal Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol / gwybodaeth ategol ychwanegol ar gyfer safleoedd sydd wedi cael eu cyflwyno’n barod.

Yn y ‘Canllaw(iau) Cynlluniau Datblygu’ y manylir arnynt isod caiff y dogfennau hyn a cham creu’r cynllun eu hesbonio’n dda, a cheir gwybodaeth ar ein gwefan ar wahân ar gyfer Safleoedd Ymgeisiol hefyd.

Adroddiad Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol (Ionawr 2018)

Mabwysiadodd y Cyngor ei Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) ym mis Rhagfyr 2013. Mae'r cynllun yn llywio’r datblygiad a'r defnydd a wneir o dir yn y Fwrdeistref Sirol hyd 2021. Er mwyn sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn cael eu diweddaru, mae'n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol adolygu'u CDLl o leiaf unwaith bob pedair blynedd ar ôl eu mabwysiadu, neu cyn hynny os yw canfyddiadau'r Adroddiadau Monitro Blynyddol (AMB) yn dangos pryderon sylweddol yng ngweithrediad y cynllun.

Dechreuwyd adolygu Cynllun Datblygu Lleol Torfaen yn 2017; a'r cam cyntaf oedd cyhoeddi Adroddiad Adolygu CDLl Torfaen ym mis Ebrill 2018. Mae Crynodeb Gweithredol o Adroddiad Adolygu CDLl Torfaen hefyd ar gael.

Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd wedi ei chynnwys yn Adroddiad yr Adolygiad, daethpwyd i'r casgliad y dylid diwygio'r CDLl a dylai hyn fod ar ffurf gweithdrefn adolygu lawn.

Canllaw Cynlluniau Datblygu

Mae Llywodraeth Cymru a Chymorth Cynllunio Cymru wedi cynhyrchu canllaw i esbonio system y cynlluniau datblygu a’r broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Mae canllaw llawn a chrynodeb ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar eu gwefannau:

Cysylltu â Ni

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Polisi a Gweithredu Cynllunio ar ldp@torfaen.gov.uk neu ffonio 01633 648039 / 648805.

Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)

Ar 25 Mai 2018, daeth y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol i rym, gan osod cyfyngiadau newydd ar sut y gall sefydliadau gadw a defnyddio'ch data personol a diffinio'ch hawliau o ran y data hwnnw. Gan gyfeirio at broses y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, mae'r GDPR yn berthnasol i'r Safleoedd Ymgeisiol, Cronfa Ddata Ymgynghori CDLlN a sylwadau a ddaw i law mewn ymateb i bob ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Datblygu Lleol (CBS Torfaen) (Mawrth 2020) y gellir ei weld yma neu gellir darparu copi papur ar gais.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/11/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Polisi a Gweithredu Cynllunio

Ffôn: 01633 648039 / 648140

E-bost: ldp@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig