Sut ydw i'n gwneud cais am ganiatâd cynllunio?

Mae'r angen i wneud cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei reoli gan ddeddfwriaeth a osodir gan Lywodraeth Ganolog. Ceir canllawiau ar wneud cais am ganiatâd cynllunio ar www.businesswales.gov.wales neu drwy gysylltu â ni yn Nhŷ Blaen Torfaen, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl gan ddefnyddio'r manylion a ddarperir ar y dudalen hon.

Cyn i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio, rydym yn eich cynghori'n gryf i ystyried gwneud ymholiad cyn-ymgeisio gyda ni a fydd yn nodi polisïau perthnasol, darparu asesiad cychwynnol o'ch cynnig a'r wybodaeth bydd ei hangen cyn i chi gyflwyno cais cynllunio. Mae ein nodyn cyfarwyddyd cyn-ymgeisio, ffurflen cyn-ymgeisio a ffioedd cyn-ymgeisio ar gael yma. Yn anffodus, nid oes swyddog cynllunio bellach ar gael ar gyfer ymgynghoriadau fel swyddog ar ddyletswydd, er y bydd, wrth gwrs modd cysylltu ag ef yn ei swydd fel swyddog achos ar gyfer eu ceisiadau cynllunio /ymholiadau penodol cyn gwneud cais. A fyddech cystal â threfnu pob apwyntiad ar gyfer cyfarfodydd (swyddfa neu safle) drwy'r swyddog perthnasol a enwir ar eich gohebiaeth.

I gael gwybodaeth bellach neu i gael cymorth rhowch alwad ar 01633 648095 neu e-bostiwch planning@torfaen.gov.uk a byddwn yn ceisio eich cynorthwyo fel y bo’n briodol.

Mathau o Geisiadau

Gallwch ofyn am gyngor a hefyd gwneud cais am ganiatâd cynllunio drwy’r porth cynllunio cenedlaethol.

Mae copïau caled o ffurflenni Ceisiadau Cynllunio ar gael o’r swyddfa cynllunio yn:

Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 0LS.

I gael manylion yr holl fathau o geisiadau a’u gofynion cyn cyflwyno, cyfeirier at ein tudalen Ffurflenni Cynllunio i gael gwybodaeth a chyfarwyddiadau cyflwyno sydd yn cynnwys fersiynau PDF o’r ffurflenni cais a chyfarwyddyd ochr yn ochr ag opsiynau cyflwyno drwy’r Porth Cynllunio.

Ffioedd Cynllunio

Rhaid talu'r ffi briodol gyda'r cais cyn y gellir ei bennu. Mae ein rhestr ffioedd presennol ar gael ar ein tudalen Ffurflenni Cynllunio  sydd hefyd yn rhoi manylion am y categorïau sydd wedi'u heithrio rhag ffioedd cynllunio neu ganddynt gonsesiynau tebyg. Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael o'r swyddfa gynllunio.

Y Gofrestr Cynllunio

Mae manylion pob cais, a phenderfyniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol, yn cael eu cofnodi yn y gofrestr gynllunio a gellir ei gweld yn ystod oriau swyddfa (8:30am-5:00pm Llun - Iau, 8.30am - 4:30 pm Gwener) . Mae'r Rhestr wythnosol o geisiadau ar gael i'w gweld ar y dudalen Rhestr Wythnosol o Geisiadau Cynllunio a bydd cofnod o’r Penderfyniadau a wneir ar geisiadau cynllunio i’w gweld ar y dudalen Penderfyniadau Cynllunio. Mae’r holl wybodaeth hon hefyd ar gael drwy ein Gwasanaeth Mynediad Cyhoeddus i Gynllunio.

Ymgynghoriadau a Phenderfyniadau

Pan fydd cais cynllunio wedi cael ei gofrestru, cynhelir ymgynghoriadau gyda chyrff statudol ac adrannau mewnol. Rhaid i geisiadau sy'n effeithio ar gymeriad neu olwg ardal gadwraeth a rhai ceisiadau mawr a / neu gynhennus gael eu hysbysebu yn y wasg leol ac ar y safle. Bydd deiliaid y tir cyfagos yn cael gwybod yn y rhan fwyaf o amgylchiadau. Rhaid i unrhyw sylwadau fod yn ysgrifenedig a gall y cyhoedd eu gweld yn y swyddfa gynllunio. Mae'r Pwyllgor Cynllunio yn cyfarfod bob pedair wythnos ac yn delio â'r ceisiadau mwy neu fwy cymhleth. Gall y rhai sydd wedi gwrthwynebu'r cais sy'n cael ei adrodd i'r pwyllgor wneud hynny'n bersonol i'r pwyllgor cynllunio yn unol ag arweiniad y Cyngor ar hawliau siarad trydydd parti. Mae rhestrau llawn o ddyddiadau cyfarfod, eitemau agenda, cofnodion ac adroddiadau'r Pwyllgor Cynllunio ar gael ar dudalennau Cyngor a Democratiaeth y wefan hon. Eir i'r afael â'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio dan bwerau dirprwyedig.

Terfynau Amser

Pennir y mwyafrif o o geisiadau cynllunio o fewn wyth wythnos o'r dyddiad y daw cais dilys i law oni bai bod yr ymgeisydd yn cytuno estyn yr amser. Rhaid cwblhau'r datblygiad a gymeradwywyd fel arfer o fewn 5 mlynedd o ddyddiad y penderfyniad a bydd hyn yn cael ei wneud yn glir fel amodau ar hysbysiad y penderfyniad.

Apeliadau Cynllunio

Gall ymgeiswyr apelio yn erbyn gwrthod caniatâd, methiant o du'r Cyngor i beidio â gwneud penderfyniad cyn pen y terfyn amser gofynnol neu amod o ganiatâd cynllunio. Gellir apelio i Weinidogion Cymru dan Adrannau 78 a 79 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae'r canllawiau ar gyfer apelio i'w cael ar gefn yr hysbysiad cynllunio hwn.

Cymorth Cynllunio

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn elusen annibynnol sy’n rhoi cyngor a chymorth ar bob agwedd ar gynllunio defnydd tir yng Nghymru. Ewch i wefan Cymorth Cynllunio Cymru neu ffoniwch wasanaeth llinell gymorth cynllunio ar 02920 625 000 i gael mwy o wybodaeth. Os oes gennych ymholiad yn ymwneud â chynllunio, cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Os ydych yn fusnes sy’n cael gwaith adeiladu neu waith adfer ar eich eiddo, efallai y bydd angen i chi hysbysu’r Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac efallai y bydd hefyd gennych ddyletswyddau erail.

Diwygiwyd Diwethaf: 31/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Cynllunio

Ffôn: 01633 648095

E-bost: planning@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig