Dymchwel

Eir i’r afael â dymchwel dan Ddeddf Adeiladu 1984. Yn gyffredinol, mae angen chwe wythnos o rybudd ymlaen llaw ar Adran Rheoli Adeiladu'r Awdurdod Lleol cyn i’r dymchwel ddechrau.

Gall Adrannau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol benderfynu cyhoeddi hysbysiad o fewn chwe wythnos o'r dyddiad y daw'r hysbysiad i law i bennu amodau y mae angen eu bodloni a all gynnwys ragofalon i ddiogelu eiddo cyfagos a'r cyhoedd.

Rhaid i waith dymchwel hefyd gydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015 a rhaid i’r prif gontractwr gyflwyno adroddiad iechyd a diogelwch.

Bydd angen bodloni Rheoliadau Adeiladu sy'n ymwneud â pharatoi safle a gwydnwch yn erbyn halogyddion a lleithder unwaith y bydd y gwaith paratoi yn dechrau ar y safle.

Os ydych yn bwriadu dymchwel adeilad, rhaid i chi roi gwybod i'r cyngor gan ddefnyddio'r Rhybudd Dymchwel - Adran 80. Bydd ffi o £130 + TAW yn daladwy am bob hysbysiad.

Cysylltwch ag Adran Rheoli Adeiladu'r awdurdod lleol am gyngor pellach.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Adeiladu

Ffôn: 01633 647300

E-bost: buildingcontrol@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig