Mwg sy'n peri niwsans

Coelcerthi

Gall llosgi gwastraff gardd fod yn annymunol a pheri risg i iechyd. Mae coelcerthi'n anghyfreithlon os ydynt yn achosi niwsans i bobl eraill. 

Mae niwsans oherwydd mwg sy'n deillio o safleoedd yn drosedd dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Er mwyn i'r Tîm Iechyd y Cyhoedd gymryd camau yn erbyn troseddwyr, mae'n rhaid i ni fod yn fodlon bod niwsans yn cael ei greu yn yr ystyr gyfreithiol. Er enghraifft, mae'n rhaid bod y goelcerth yn amharu'n sylweddol ar eich mwynhad o'ch gardd neu'ch tŷ. Gallai hyn ddigwydd os oes angen i chi gau drysau a ffenestri'n rheolaidd, neu os ydych yn cael eich atal yn rheolaidd rhag treulio amser yn yr ardd.

Niweidiol i iechyd

Gall mwg gynnwys carbon monocsid yn ogystal â chyfansoddion gwenwynig, llidiol a charsinogenig eraill. 

Llosgi gwastraff masnachol

Os ydych chi'n llosgi gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu trwy weithgareddau masnachol neu ddiwydiannol, neu os ydych chi'n llosgi gwastraff o unrhyw fath ar safle diwydiannol neu fasnachol, gallech fod yn cyflawni trosedd

Nid yw llosgi'n ffordd dderbyniol o waredu gwastraff masnachol. Mae llosgi gwastraff yn cynhyrchu mwg sy'n cynnwys ystod o lygrwyr sy'n gallu llygru'r amgylchedd a chael effeithiau niweidiol ar iechyd. Mae hefyd yn cynyddu lefelau llygredd aer cefndirol. Mae deddfau'n bodoli i ddiogelu pobl a'r amgylchedd. Mae hyn yn golygu y gall gweithgarwch llosgi o unrhyw fath arwain at erlyniad troseddol a dirwyon sylweddol. Dylai gweithredwyr busnesau a safleoedd masnachol a diwydiannol fod yn ymwybodol o'r canlynol:

  • Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn gosod dyletswydd gofal ar bob busnes i sicrhau bod yr holl wastraff a gynhyrchir yn cael ei waredu mewn ffordd addas. Ni ystyrir bod llosgi gwastraff yn briodol, a bydd unrhyw un y canfyddir ei fod yn gwaredu gwastraff yn groes i'w gyfrifoldebau dyletswydd gofal yn agored i gael ei erlyn, a bydd yn gorfod talu dirwy os caiff ei ddyfarnu'n euog (cyfeiriwch at adran 33 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990)
  • Dan Ddeddf Aer Glân 1993, mae'n drosedd i losgi unrhyw beth ar safle diwydiannol neu fasnachol sy'n achosi mwg tywyll. Byddai hyn yn cynnwys plastig, deunyddiau inswleiddio (e.e. sbwng), teiars a phren wedi'i drin/ei baentio. Mae troseddau dan y ddeddfwriaeth hon yn arwain at ddirwy o £20,000 ar gyfer pob trosedd (gweler drosodd).
  • Dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, gellir ystyried bod mwg o unrhyw fath o dân yn achosi niwsans statudol i eiddo cyfagos os yw'r mwg yn effeithio ar fwynhad y meddianwyr o'r eiddo - e.e. os ni allant eistedd yn eu gardd neu sychu dillad, neu os oes rhaid iddynt gadw'r ffenestri ar gau. Gellir rhoi hysbysiad cyfreithiol sy'n mynnu bod y niwsans sy'n deillio o fwg yn cael ei atal, a gall methiant i gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad arwain at erlyniad.
  • Caiff allyriadau mwg o ffliwiau, simneiau neu gyrn simnai eu rheoli gan ddeddfwriaeth gan gynnwys Deddf Aer Glân 1993 a Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
  • Mae unrhyw un sy'n cynnau tân ac yn caniatáu i'r mwg fynd ar draws priffordd yn wynebu dirwy o hyd at £2,000 dan Ddeddf Priffyrdd (Diwygio) 1986.
  • Nid yw'r gyfraith yn pennu amseroedd penodol pryd y ceir llosgi neu pryd na cheir llosgi.
  • Bydd unigolyn sy'n llosgi casin a/neu inswleiddio o gebl gyda'r bwriad o adfer y craidd/creiddiau metel yn euog o drosedd dan Ddeddf Aer Glân 1993. Mae dirwy o hyd at £20,000 yn berthnasol.

Adrodd am droseddwyr

Os ydych yn cael problem gyda niwsans mwg, dylech ystyried siarad â'ch cymydog yn gyntaf a dweud wrtho/wrthi'n gwrtais sut mae'r goelcerth/llosgi gwastraff yn effeithio arnoch. 

Os yw'r broblem yn parhau, gallwch roi gwybod i'r Tîm Iechyd y Cyhoedd. 

Ni fyddwn yn ymdrin â chwynion dienw fel arfer. 

I gael gwybod am ffyrdd eraill o waredu eich gwastraff, ewch i ardal y wefan ar gyfer sbwriel, gwastraff ac ailgylchu.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/07/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Iechyd y Cyhoedd

Ffôn: 01633 647622 

Ebost: public.health@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig