Y Gyfraith ar Dân Gwyllt

Mae'r gyfraith ar dân gwyllt wedi newid.

Ceir deddfau bellach yn ymwneud â phryd y ceir eu gwerthu, pryd y gellir eu tanio, pa mor uchel y cânt fod, a pha mor hen y mae'n rhaid i chi fod i'w prynu. 

Pam poeni am dân gwyllt? 

Sŵn

Gall tân gwyllt godi ofn ar bobl ac anifeiliaid. Gall plant a'r henoed, yn arbennig, gael eu brawychu gan sŵn tân gwyllt. Mae anifeiliaid fferm wedi cael eu dychryn i farwolaeth, yn llythrennol, ac mae anifeiliaid sydd wedi cael braw wedi cael eu hanafu a'u lladd ac wedi achosi damweiniau wrth geisio dianc. Gall tân gwyllt aflonyddu ar anifeiliaid anwes hefyd, a gall hyn fod yn beryglus oherwydd gall anifeiliaid anwes sydd wedi'u dychryn fod yn fileinig ac yn ddinistriol.

Llygredd Aer

Mae'r lliwiau llachar a'r effeithiau a geir mewn tân gwyllt yn cael eu cynhyrchu gan gymysgedd o gemegion. Mae tân gwyllt yn cynhyrchu golau, gwres a sŵn ynghyd â charbon deuocsid a nwyon a gwaddodion eraill. Bydd yr union allyriadau yn dibynnu ar y math o dân gwyllt, ond oherwydd bod powdwr gwn yn un o'r prif elfennau caiff cyfansoddion sylffwr eu hallyrru, ynghyd â symiau bach o ronynnau(1), ocsidiau metel a chyfansoddion organig (gan gynnwys symiau bach iawn o hydrocarbonau aromatig amgylchredol, diocsinau(2) a ffwran). Ar Noson Tân Gwyllt (5 Tachwedd) ac o gwmpas y dyddiad hwnnw, mae cynnydd amlwg mewn llygredd o ronynnau a diocsinau yn gyffredin. Mae oddeutu 14% o allyriadau diocsinau'r DU yn cael eu cynhyrchu o gwmpas adeg noson tân gwyllt, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn dod o goelcerthi yn hytrach na thân gwyllt. Mae ymchwil gyfredol yn awgrymu nad yw dyddodion llygrwyr o dân gwyllt yn peri risg i bridd neu ddŵr. 

(1). Deunyddiau a rannwyd yn fân yw gronynnau sy'n cael eu gwasgaru i'r aer o hylosgi, diwydiant a ffynonellau naturiol. Gallant achosi llid i'r llygaid, y trwyn a'r gwddf. Caiff gronynnau mwy o faint eu dal gan system amddiffyn y corff. Mae gronynnau llai o faint yn fwy peryglus. Gall y rhain dreiddio'n ddyfnach i feinwe'r ysgyfaint ac achosi problemau i unrhyw un sydd ag asthma neu gyflyrau tebyg ac i'r rhai hynny sydd â phroblemau'r galon. 

(2). Mae diocsinau yn bodoli ym mhobman - mewn dŵr, mewn pridd ac yn yr atmosffer. Llygrwyr ydynt o brosesau diwydiannol a llosgi, a hefyd o ffynonellau naturiol fel llosgfynyddoedd a thanau coedwig. Maent yn cronni yn yr amgylchedd ac mae crynodiadau uchel wedi'u cysylltu â chanser a phroblemau iechyd eraill. 

Diogelwch

Ffrwydron yw tân gwyllt a rhaid bod yn ofalus wrth eu defnyddio. Yn ystod tymor tân gwyllt 2003, derbyniodd 1136 o bobl driniaeth am anafiadau a achoswyd gan dân gwyllt. I gael gwybodaeth am ddiogelwch wrth ddefnyddio tân gwyllt, cysylltwch â'r Adran Masnach a Diwydiant, sy'n cydgysylltu ymgyrchoedd diogelwch tân gwyllt cenedlaethol.

Pryd y caf i ddefnyddio tân gwyllt?

Mae Rheoliadau Tân Gwyllt 2004 yn gwahardd unrhyw un o dan 18 oed rhag meddu ar dân gwyllt, ac yn gwahardd unrhyw un ac eithrio gweithwyr proffesiynol rhag meddu ar dân gwyllt ar gyfer arddangosfa. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn gwahardd defnyddio tân gwyllt yn y nos (11pm – 7am) yng Nghymru a Lloegr, ond ceir estyniadau ar gyfer y gwyliau canlynol:

  • Tan 1am ar ôl diwrnod cyntaf y Flwyddyn Newydd Dsieineaidd
  • Ar 5 Tachwedd tan 12am
  • Tan 1am ar y diwrnod yn dilyn diwrnod Diwali
  • Tan 1am ar y diwrnod yn dilyn 31 Rhagfyr
  • Mae'r rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan yr heddlu

Y gosb am dorri'r cyrffyw yw dirwy o hyd at £5000 a/neu chwe mis o garchar. 

Osgoi Ofn yn sgil Tân Gwyllt

Mae tân gwyllt yn ychwanegu cyffro a hudoliaeth i ddathliadau ac mae llawer o bobl yn eu mwynhau. Defnyddir arddangosiadau mawr a drefnwyd i ddathlu achlysuron gwladol a digwyddiadau chwaraeon, yn ogystal ag ar gyfer dathliadau teuluol. Nid oes rhaid i dân gwyllt fod yn fyddarol i roi pleser. Gallwn eu mwynhau mewn diogelwch, heb achosi aflonyddwch i'n cymdogion a'u hanifeiliaid anwes neu anifeiliaid eraill, neu i fywyd gwyllt. Os ydych yn cynnal eich arddangosfa tân gwyllt eich hun, cofiwch y gall gormod o sŵn godi ofn ar bobl ac anifeiliaid, a bod tân gwyllt yn achosi mwg a llygredd. Dilynwch y canllawiau syml hyn i leihau'r risg o niwsans:

  • Rhowch wybod i gymdogion ymhell ymlaen llaw - mae hyn yn arbennig o bwysig os ydynt yn oedrannus, neu os oes ganddynt blant neu anifeiliaid anwes
  • Defnyddiwch dân gwyllt priodol - pan fyddwch yn prynu tân gwyllt, ceisiwch osgoi rhai swnllyd iawn. Dylai eich cyflenwr fod yn gallu dweud wrthych beth y mae'n ei werthu
  • Gwnewch yn siwr fod anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill ymhell oddi wrth y tân gwyllt
  • Ystyriwch yr amser. Os ydych yn defnyddio tân gwyllt ar gyfer dathliad, byddai'n well ei gynnal ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn, gan wneud yn siwr bod y tân gwyllt drosodd erbyn 11pm ar yr hwyraf
  • Peidiwch â thanio tân gwyllt os nad yw'r tywydd yn addas - os yw'n llonydd a niwlog neu os yw ansawdd aer yn wael fe allai llygredd fod yn broblem. Gall gwyntoedd cryfion fod yn beryglus. Gwiriwch ansawdd yr aer ar 0800 556677 neu ewch i wefan yr Archif Ansawdd Aer.
  • Taniwch eich tân gwyllt mewn ardal gardd agored - mae sŵn yn atseinio oddi ar adeiladau a gall mwg a llygredd gronni mewn mannau amgaeedig
  • Os yw cymydog yn cwyno eich bod yn tarfu arnyn nhw, eu hanifeiliaid anwes neu anifeiliaid eraill, byddwch yn ystyriol
  • Ar ôl eich arddangosfa, cliriwch unrhyw sbwriel sy'n deillio o'r tân gwyllt a'i waredu'n ddiogel

Pwy dylech chi ei alw?

Mae'r Heddlu'n gyfrifol am ymdrin â phroblemau sy'n deillio o danio tân gwyllt. Ffoniwch 01633 838999 neu 01495 764711. Mae Safonau Masnach yn gyfrifol am ymdrin â gwerthu tân gwyllt yn anghyfreithlon. Ffoniwch 01633 647624.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gorfodi Tai a Llygredd

Ffôn: 01633 647621/647622

Ebost: public.health@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig