Llygredd gan Gerbydau

Y newid yn yr hinsawdd yw un o'r materion mwyaf dybryd sy'n wynebu'r blaned, ond mae'n fater y gall pawb wneud rhywbeth yn ei gylch. 

O droi'r thermostat i lawr i brynu car mwy economaidd, mae llawer o gamau y gallwch eu cymryd i helpu i ddiogelu dyfodol y blaned. 

Mae lleihau'r llygredd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei achosi trwy yrru car yn gam pwysig tuag at amgylchedd glanach a gwyrddach.

Ceir Gwyrddach a Gyrru

Mae'r math o gar sydd gennych chi, y ffordd rydych chi'n ei yrru a'r tanwydd rydych chi'n ei ddefnyddio yn gallu cael effaith fawr ar yr allyriadau y mae'n ei gynhyrchu. Mae teithio mewn ceir personol yn cynhyrchu 13 y cant o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Unedig ac mae'n cyfrannu at lygredd aer a thagfeydd lleol. 

Y math o gar rydych chi'n ei yrru

Nid yw prynu car gwyrddach yn golygu bod yn rhaid i chi gyfaddawdu. Mae ceir sy'n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon yn defnyddio llai o danwydd, felly maen nhw'n cynhyrchu llai o allyriadau yn ogystal ag arbed arian i chi ar filiau tanwydd a Threth Cerbyd.

Pan fyddwch yn ystyried pa mor effeithlon y mae car yn defnyddio tanwydd, cofiwch y pwyntiau canlynol:

  • mae fersiynau gwahanol o'r un model neu fath o gar yn gallu amrywio'n sylweddol o ran defnyddio tanwydd yn effeithlon - felly os ydych wedi penderfynu prynu model neu fath penodol o gar, dewiswch y fersiwn ohono sy'n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon
  • yn gyffredinol, mae ceir llai a cheir sydd ag injan lai yn defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon

Y ffordd rydych chi'n gyrru

Bydd y ffordd rydych chi'n gyrru yn effeithio ar faint o danwydd rydych chi'n ei ddefnyddio a faint o allyriadau y mae eich car yn ei gynhyrchu. Drwy ddilyn yr awgrymiadau isod, gallech arbed gwerth mis o danwydd dros flwyddyn, yn ogystal â lleihau eich allyriadau:

  • gall gyrru'n llyfn leihau faint o danwydd rydych chi'n ei ddefnyddio - edrychwch ar y ffordd o'ch blaen, gan sylwi ar draffig ymlaen llaw ac osgoi cyflymu ac arafu'n sydyn
  • newidiwch i gêr uwch ar yr adeg iawn - newidiwch i fyny ar 2500rpm ar gyfer ceir petrol a 2000rpm ar gyfer ceir diesel. Mae cerbyd sy'n teithio ar 37 milltir yr awr yn y trydydd gêr yn defnyddio 25 y cant yn fwy o danwydd nag y byddai petai'n teithio ar yr un cyflymder yn y pumed gêr
  • camwch i mewn a chychwyn - mae injans modern wedi'u cynllunio i fod yn fwyaf effeithlon pan fyddwch yn cychwyn heb oedi. Bydd cadw'r injan yn rhedeg neu bwmpio'r sbardun yn gwastraffu tanwydd ac yn cynyddu traul ar yr injan ac allyriadau
  • diffoddwch yr injan os ydych yn gwybod na fyddwch yn symud am gyfnod
  • gwiriwch bwysedd eich teiars yn rheolaidd - os nad oes digon o aer yn eich teiars gallech fod yn defnyddio hyd at dri y cant yn fwy o danwydd
  • gyrrwch o fewn y terfynau cyflymder - drwy yrru ar 70 milltir yr awr gallech fod yn defnyddio hyd at 30 y cant yn fwy o danwydd na phe byddech drwy yrru ar 50 milltir yr awr
  • mynnwch wared ar raciau to a phwysau diangen - maent yn cynyddu'r pwysau a'r gwrthiant aer, ac felly'n cynyddu faint o danwydd rydych chi'n ei ddefnyddio
  • mae aerdymheru a dyfeisiau trydanol eraill yn y car (fel dyfeisiau gwefru ffôn symudol) yn gallu cynyddu faint o danwydd a ddefnyddir, felly dylech eu defnyddio pan fo angen yn unig.

Cerbydau sy'n Troi'n Segur

Os ydych yn gadael i'ch cerbyd droi'n segur tra'ch bod yn sefyll, rydych yn cyfrannu at lygredd aer.

Mae ymchwil yn dangos:

  • bod gadael i injan droi'n segur am 10 eiliad yn defnyddio mwy o danwydd nag ailgychwyn
  • bod pob litr o danwydd yn cynhyrchu 2.4kg o'r nwy tŷ gwydr CO2
  • bod allyriadau nwyon llosg yn cynnwys ystod o sylweddau gwenwynig fel carbon monocsid, nitrogen deuocsid, hydrocarbonau a gronynnau
  • bod 62% o bobl sydd ag asthma yn dweud bod mygdarthau traffig yn gwaethygu eu cyflwr
  • bod chwarter y bobl sydd ag asthma yn dweud mai gostyngiad mewn llygredd aer yw'r un peth a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'w hansawdd bywyd o ran eu cyflwr

Mae Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003 (y rheoliadau) yn galluogi awdurdodau lleol yng Nghymru i roi hysbysiadau cosb benodedig i yrwyr sy'n caniatáu i'w cerbydau redeg yn ddiangen tra'u bod yn sefyll. Daeth y rheoliadau hyn i rym ar 1 Mai 2003. 

Mae'r pwerau i wneud hyn wedi'u rhoi yn awtomatig gan y rheoliadau, felly nid oes angen i awdurdodau lleol wneud cais i gael eu dynodi i'w defnyddio. 

Pan fydd swyddog yn dod ar draws cerbyd sydd â'i injan yn rhedeg, y cam cyntaf fyddai rhoi gwybod i'r gyrrwr ei bod yn drosedd gadael i injan cerbyd droi'n segur tra'i fod yn sefyll, a bod Cosb Benodedig o £20 yn gysylltiedig â throsedd o'r fath. 

Yna byddai'r swyddog yn gofyn i'r gyrrwr ddiffodd yr injan. 

Byddai Hysbysiad Cosb Benodedig yn cael ei roi dim ond os yw'r gyrrwr yn gwrthod diffodd yr injan er bod swyddog awdurdodedig wedi gofyn iddo wneud hynny. 

Fodd bynnag, ni fydd gyrwyr yn cael eu cosbi mewn achosion pan fo synnwyr cyffredin yn golygu bod angen gadael i'r injan redeg, e.e.:

  • pan fo cerbyd yn sefyll wrth oleuadau traffig neu mewn tagfa
  • pan fo cerbyd wedi torri i lawr ac mae'r injan yn cael ei redeg i ddod o hyd i'r broblem
  • pan fo angen rhedeg yr injan i oeri nwyddau ffres neu weithredu dyfais wasgu ar gerbyd casglu gwastraff
  • unrhyw sefyllfaoedd eraill y gellid ystyried eu bod yn dderbyniol. Gallai hyn gynnwys caniatáu i rywun ddadrewi ffenestr flaen neu oeri ar ddiwrnod poeth am ychydig funudau.

Beth allaf i ei wneud am lygredd o gerbydau modur eraill?

Yn aml, gofynnir i Adran Iechyd y Cyhoedd beth allwn ni ei wneud os gwelir cerbyd nwyddau trwm, bws, neu gerbyd masnachol myglyd arall ar y ffordd.

Nid oes gan y Cyngor unrhyw bŵer i weithredu, ond gall Arolygiaeth Gerbydau'r Adran Drafnidiaeth gymryd camau.

Os digwydd i chi weld cerbyd sydd â pheipen fwg myglyd gwenwch nodyn o’r rhif cofrestru a rhowch y manylion i’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Iechyd y Cyhoedd

Ffôn: 01633 647622

Ebost: public.health@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig