Wedi ei bostio ar Dydd Iau 9 Mai 2024
Mae dyn wedi cael ei garcharu am dair blynedd am werthu bron i 300 o geir sydd wedi'u difrodi mewn damweiniau heb yn wybod i gwsmeriaid.
Sefydlodd Evan Beman, 47, broffiliau ffug ar Facebook i werthu’r cerbydau heb ddatgelu bod cwmnïau yswiriant wedi datgan eu bod y tu hwnt i’w trwsio.
Defnyddiodd enwau ffug hefyd i gofrestru'r cerbydau gyda'r DVLA, mewn twyll yr amcangyfrifir ei fod werth hyd at £165,000.
Yr wythnos diwethaf, plediodd Bevan, o Gainsborough Square, Lockleaze, Bryste, yn euog yn Llys y Goron Caerdydd i gyhuddiadau o dan Ddeddf Twyll 2006.
Clywodd y llys fod bachgen 17 oed wedi cysylltu â thîm Safonau Masnach Cyngor Torfaen ar ôl iddyn nhw brynu Vauxhall Corsa gan werthwr ar Facebook, yng Nghwmbrân, ym mis Mehefin 2021. Torrodd y cerbyd i lawr 15 munud ar ôl ei brynu.
Cawsant fil atgyweirio o fwy na £1,300 a phan wnaethant gwyno, dywedwyd wrthynt fod y cerbyd wedi cael ei werthu yn ei gyflwr presennol ac nad oedd ganddynt hawl i gael ad-daliad.
Yn ddiweddarach, canfu ymchwiliad fod y cerbyd wedi bod mewn damwain yn flaenorol a'i fod bellach yn gerbyd Categori C.
Clywodd y llys fod swyddogion Safonau Masnach wedi darganfod bod Beman a phartner busnes wedi prynu 292 o gerbydau trwy gwmni achub ceir cofrestredig drwy gyfrif trydydd parti, rhwng 1 Chwefror, 2021, ac 16 Medi, 2022.
Cysylltodd swyddogion â rhai o'r cwsmeriaid a oedd wedi prynu cerbydau a chanfod nad oeddent yn ymwybodol eu bod wedi prynu cerbydau a oedd wedi eu difrodi mewn damwain.
Clywodd y llys fod un gŵr wedi prynu cerbyd am £2,250 a bod ganddo anfoneb gydag enw a chyfeiriad busnes ffug.
Roedd sawl peth o’i le ar y car, ond pan gwynodd y gŵr, cynigiodd Beman brynu'r cerbyd yn ôl am £1,700, ei drwsio a’i ddychwelyd i’r cwsmer. Dywedwyd wrth y gŵr, pe bai dal i fod yn anhapus ar ôl wythnos, byddai’n derbyn ad-daliad, ond ail-ymddangosodd y car ar werth eto, wythnos yn ddiweddarach.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd,: "Er nad yw gwerthu cerbydau sydd wedi'u difrodi mewn damwain yn anghyfreithlon, mae eu gwerthu heb ddatgelu'r hanes yn mynd yn groes i’r gyfraith a gall fod yn beryglus i yrwyr ac eraill ar yr heol.
"Y cyngor wrth chwilio am gar ail-law yw gofyn cwestiynau a gwirio’i hanes MOT. Gall cwsmeriaid hefyd gynnal Ymchwiliad Hur Bwrcas ar-lein.”
Os ydych chi'n amau bod rhywun yn gwerthu nwyddau yn anghyfreithlon, gallwch gysylltu â thîm Safonau Masnach y Cyngor ar trading.standards@torfaen.gov.uk