Cymeradwyo Cynllun i Godi'r Gyfradd Ailgylchu

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 17 Ionawr 2024
Roadmap

Recycling roadmap

Mae aelodau’r Cabinet wedi cymeradwyo cynllun i wella’r gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu a chynyddu ailgylchu.  

Mae’r Cynllun Gwella Ailgylchu’n adeiladu ar welliannau diweddar yn y gwasanaeth fel casglu cerdyn yn wythnosol ac ymgyrch Gwybodaeth Gyhoeddus Codi’r Gyfradd, a lansiwyd yn Ebrill 2023.   

Mae’n cynnwys hefyd cynlluniau ar gyfer gweithio gyda chymdeithasau tai er mwyn cynyddu cyfleusterau ailgylchu mewn fflatiau ac ymgyrch ymgysylltiad cyhoeddus i gynyddu ailgylchu gwastraff bwyd yn y fwrdeistref.   

Mae’r gwasanaeth hefyd yn paratoi ar gyfer cyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer gwastraff masnachol o Ebrill 6, 2024, sy’n golygu y bydd rhaid i fusnesau, gan gynnwys ysgolion, ailgylchu yn yr un ffordd â chartrefi.   

Yn ystod y cyfarfod heddiw, dywedwyd wrth aelodau’r cabinet fod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar bum maes allweddol ar gyfer gwelliant: ansawdd y gwasanaeth; y cynnig ailgylchu; seilwaith cydnerth a chynaliadwy; ailgylchu gan fusnesau ac addysg, cyfathrebu a newid ymddygiad.  

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r tîm gwastraff ac ailgylchu wedi cyflwyno gwasanaethau newydd, fel casglu cardbord pob wythnos, creu man casglu plastig ymestynnol yn y Ganolfan Ddinesig, a phrynu cerbydau ailgylchu newydd.  

“Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth awdurdodau lleol bod rhaid ailgylchu 70 y cant o sbwriel erbyn 2025 neu gael dirwyon posibl.  Mae yna fudd amgylcheddol amlwg hefyd wrth ailgylchu mwy a chynhyrchu llai. Mae ailgylchu’n dda i’r amgylchedd, yn dda i’r trethdalwr ac yn dda i genedlaethau’r dyfodol.” 

Dywedodd Arweinydd Torfaen, y Cyng. Anthony Hunt: “Bwriad Torfaen yw Codi’r Gyfradd trwy weithio gyda’n trigolion ac ar eu rhan. Fe wnaethom ni wrando ar ein trigolion ac oedi cynlluniau ar gyfer casgliadau sbwriel pob 3 neu 4 wythnos ac, yn lle, fe edrychon ni ar sut y gallwn ni cynyddu cyfraddau ailgylchu mewn ffordd gynhwysol ac uchelgeisiol.  Mae risg yn hyn o beth, ond rydym ni’n  credu y gallwn ni i gyd, trwy wella’r cynnig ailgylchu, gwella dibynadwyedd y gwasanaeth a chynyddu cyfraddau cyfranogiad, yn enwedig yn ein gwasanaeth casglu bwyd, wneud ychydig yn fwy i helpu i ‘Godi’r Gyfradd’. 

Yn ôl yr adroddiad, cyfradd ailgylchu Torfaen ar gyfer 2022-2023 oedd 58.7  y cant.  

Mewn dadansoddiad diweddar o wastraff bin clawr porffor yn Nhorfaen, gwelwyd y gallai rhyw 62 y cant o’r gwastraff fod wedi cael ei ailgylchu wrth ymyl y ffordd gyda gwastraff bwyd yn 31%. 

I weld y cynllun a’r dogfennau llawn, dilynwch y ddolen hon  

Dysgwch sut i ailgylchu yn Nhorfaen 

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 17/01/2024 Nôl i’r Brig