Cabinet yn cymeradwyo cynllun cyllideb

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 17 Ionawr 2024

Mae’r Cyngor wedi nodi £2.8miliwn o arbedion pellach ers y gyllideb ddrafft yn Nhachwedd ac mae’n nesáu at gyllideb gytbwys.

Mae cynigion y gyllideb hefyd yn tybio cynnydd o 4.95% yn Nhreth y Cyngor – disgwylir i hyn fod yn un o’r codiadau isaf yn nhreth y cyngor yng Nghymru.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Anthony Hunt:  "Mae’n rhaid i ni gydbwyso ein cyllidebau ac mae’n rhaid i ni wneud y penderfyniadau anodd sy’n angenrheidiol.  Pe na baem ni, yna byddai’r posibiliadau amgen yn waeth a gallent arwain at doriadau mwy.

"Mae pobl wedi gweld yr adroddiadau, dros y ffin yn Lloegr, dros yr wythnosau diwethaf, am nifer y cynghorau sydd mewn trafferthion ariannol go iawn.  Mae yna effaith wirioneddol ar bobl sy’n dibynnu ar wasanaethau a hefyd y bobl sy’n gweithio i ddarparu’r gwasanaethau hynny."

Mae’r arbedion arfaethedig yn cynnwys diwygiadau yn yr amcan o wariant a dyrannu ariannu o fewn y Cyfarwyddiaethau Plant a Theuluoedd ac Oedolion a Chymunedau, gostyngiadau a mesurau effeithlonrwydd mewn gweinyddiaeth a mwy o arbedion effeithlonrwydd ynni yn adeiladau sy’n eiddo i’r cyngor.

Mae ariannu ar gyfer gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys addysg a gofal cymdeithasol mewn lle i sicrhau bod costau cynyddol yn cael eu talu a bod gwasanaethau’n cael eu gwarchod. 

Yn Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai setliad blynyddol y cyngor yn cynyddu 3.24%, oedd yn fwy na’r hyn a ddisgwyliwyd.

Fel rhan o’r gyllideb cyn y Nadolig, nododd y cyngor gwerth £5.2miliwn o arbedion mewnol trwy leihau costau ynni mewn adeiladau, effeithlonrwydd mewn gwasanaethau a gostyngiadau yn y gweithlu.

Dywedodd y Cyng. Sue Morgan, yr Aelod Gweithredol dros Adnoddau: “Rydym yn wynebu her anferth i gynnal ein gwasanaethau a her fwy byth wrth geisio cael gwelliannau i’n cymunedau, ond rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r ddwy nod hynny.

"Rwy’n falch fod Torfaen eisoes yn symud tuag at sefyllfa gytbwys ar gyfer 2024-2025. Rwy’n gwybod bod ein hymgeision di-baid i sicrhau gwelliannau a gwerth am arian yn golygu bod rhaid i ni fod yn realistig ac, yn bwysig, yn agor i newid."

Gofynnir i drigolion nawr roi eu barn ar yr arbedion arfaethedig a’r cynnydd yn nhreth y cyngor. Rhowch eich barn, trwy Gymerwch Ran Torfaen, cyn 5pm ddydd Mawrth 30 Ionawr.

I ddarllen yr adroddiad ac am wybodaeth bellach, ewch i (Public Pack)Agenda Document for Cabinet, 16/01/2024 10:30 (torfaen.gov.uk)

Diwygiwyd Diwethaf: 17/01/2024 Nôl i’r Brig