Cyngor yn cymeradwyo buddsoddiad mewn fferm

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 19 Medi 2023
Greenmeadow Farm visual design interpretation

Mae cynghorwyr wedi cytuno i fuddsoddi £1.64 miliwn yn ychwanegol ar ailddatblygu Fferm Gymunedol Greenmeadow. 

Bu’r Fferm yn gweithio am dros 250 mlynedd cyn ei throi’n fferm gymunedol yn y 1980au.

Mae disgwyl y bydd y buddsoddiad ychwanegol yn troi’r Fferm yn atyniad arweiniol yn y rhanbarth, gan ddod â mwy o ymwelwyr er mwyn creu elw a dod â chymhorthdal blynyddol sylweddol y cyngor i ben.

Yn ystod y cyfarfod, dywedwyd wrth gynghorwyr bod rhagolygon y bydd y fferm yn dod ag elw o 2029/30 ymlaen pan ddisgwylir i nifer yr ymwelwyr gyrraedd dros gan mil o bobl.

Roedd cyfanswm y gost o ailagor y fferm wedi codi i £3,738,900 gyda’r arian ychwanegol o £1,641,400 nawr yn arian sydd wedi ei gytuno fel rhan o raglen gyfalaf y cyngor.  Bydd y buddsoddi yn dod â:

  • ysgubor wair wedi ei hadnewyddu i fod yn addas ar gyfer digwyddiadau cymunedol gan gynnwys priodasau a phartis
  • ysgubor chwarae newydd dan do gydag offer chwarae caled a man chwarae antur newydd yn yr awyr agored 
  • ysgubor anifeiliaid newydd
  • caffis newydd ac estynedig gyda mannau chwarae meddal
  • siop well i hyrwyddo cynnyrch a chyflenwyr lleol
  • tirweddu deniadol gyda choetiroedd a llwybrau peillio a llwybrau synhwyraidd
  • ardal cynnyrch llaeth ac addysg newydd
  • gwelliannau i fynedfa’r fferm a hygyrchedd i’r safle.

Cytunodd cynghorwyr y byddai prisiau mynediad cyffredinol yn cychwyn ar £8.50 gyda thocynnau aelodaeth leol yn £24 ac ymweliadau ysgolion y £5 y disgybl.  Roedd prisiau wedi eu cymharu â 14 o atyniadau tebyg yn ne Cymru a de Lloegr.

Dywedodd aelod gweithredol Cyngor Torfaen dros gymunedau, y Cyng. Fiona Cross: ‘‘Mae llawer o gariad at y fferm a bydd y buddsoddiad yma’n ei gwneud yn atyniad blaenllaw i ymwelwyr yn ne ddwyrain Cymru, ac yn un o brif atyniadau cynnig Cyrchfan Torfaen. Bydd yn ad-dalu buddsoddiad y cyngor ac yn rhoi gweddill ar ben hynny ar gyfer mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol er mwyn parhau i adfywio’r cynnig i ymwelwyr. 

‘Budd y buddsoddiad ychwanegol hefyd yn denu ymwelwyr i’r fwrdeistref trwy gydol y flwyddyn gyda chanolbwyntio go iawn ar y profiad awyr agored i ymwelwyr a fydd yn diwallu’r galw gan ymwelwyr ar gyfer gweithgareddau pob tywydd, profiadau go iawn gyda’r anifeiliaid, amser gyda natur a chwarae yn yr awyr agored.  

‘Bydd yr ysgubor wair ar ei newydd wedd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer priodasau, partïon a gweithgareddau cymunedol, gan sicrhau bod y fferm yn parhau i fod yn ganolfan bwysig yn y gymuned ehangach.  

‘Rwy’n gwybod nad oedd y penderfyniad a oedd yn wynebu aelodau’n rhwydd o ystyried y sefyllfa ariannol gyda gwasanaethau cyhoeddus lleol, ond mae’r rhain yn gynlluniau cyffrous sy’n cefnogi ein Cynllun Sirol i wneud Torfaen yn lle ffyniannus i fyw ac ymweld ag e ac mae’n fuddsoddiad a fydd yn helpu i warchod treftadaeth wledig a mannau agored y fwrdeistref.’

Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cyng. Anthony Hunt: ‘Rydym yn gwybod am yr effaith mae chwyddiant yn cael ar ein bywydau pob dydd, ond bydd y buddsoddiad ychwanegol yma’n caniatáu i’r fferm fod yn fasnachol ddichonol ac yn medru sefyll ar ei thraed ei hun am y tro cyntaf erioed. Y gwir yw, heb y buddsoddiad ychwanegol  i ddatblygu cynnig gwell i ymwelwyr a mynd i’r afael â gwelliannau hanfodol i’r safle, ni fyddai’r fferm wedi gallu ailagor.’

Bydd y fferm yn aros ar gau tra bod y gwaith yn cael ei gwblhau a bydd yn ailagor erbyn Ebrill 2025.

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Coley Hill Consultants (CHC) ar ran y cyngor. Mae CHC yn brofiadol mewn twristiaeth a lletygarwch ac maen nhw wedi gweithio o'r blaen ar atyniadau mawr fel Eden Project, Gerddi Kew a The Wave ym Mryste.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/09/2023 Nôl i’r Brig