Cymeradwyo cynllun newydd i'r gamlas

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023
Canal

Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cynllun 10 mlynedd newydd i warchod a gwella Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn Nhorfaen. 

Cafodd y strategaeth, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â grwpiau camlas a thrwy ymgynghoriad â’r cymoedd a grwpiau lleol, gefnogaeth aelodau’r cabinet yn gynharach heddiw.

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar bum maes allweddol: cynnal a chadw a rheolaeth gynaliadwy; hamdden a theithio, cymuned a phartneriaeth; treftadaeth gydnerth ac adferiad a theithio i Ganol Tref Cwmbrân erbyn 2034.

Bydd Cynllun Rheolaeth y Gamlas hefyd yn cael ei lunio i ganolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei wneud i gynnal y gamlas yn y tymor byr.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros Adfywio: "Mae Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu’n cael ei ystyried yn un o’r dyfrffyrdd mwyaf hardd yn y DU. 

"Mae trigolion lleol yn ei gwerthfawrogi’n fawr wrth iddyn nhw ei defnyddio ar gyfer ymarfer corff, hamdden a theithio ac mae’n denu miloedd o ymwelwyr i’r fwrdeistref pob blwyddyn hefyd. Bydd y strategaeth yma’n helpu i gyrraedd nodau’r cyngor o gysylltu cymunedau, gwarchod yr amgylchedd a’r dreftadaeth leol a chefnogi busnesau lleol.

"Bydd hefyd yn gwarchod ac yn datblygu potensial y gamlas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol."

Yn Nhachwedd 2022, cymerodd 1,200 o bobl ran mewn arolwg am y gamlas – dywedodd 93 y cant eu bod yn ei gwerthfawrogi am ei bywyd gwyllt a’i chysylltiad â natur, dywedodd 72 y cant fod hanes y gamlas yn bwysig a dywedodd 65 y cant eu bod yn teimlo fod y gamlas yn rhan o gymeriad Torfaen.

Mae tri cham i’r strategaeth newydd, gyda’r cyntaf yn canolbwyntio ar sefydlu ffynhonnell ddŵr gynaliadwy newydd i alluogi ehangu’r darn y mae modd teithio arno.

Mae gan bob cam ei gynllun gweithredu eu hun, gan gynnwys sefydlu grŵp gwirfoddolwyr i gefnogi’n grwpiau presennol ar gyfer y gamlas, cofrestr asedau treftadaeth er mwyn blaenoriaethu gwaith adfer a rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau cymunedol yn y flwyddyn gyntaf. 

Mae Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu’n cynnwys 35 milltir o gamlas y mae modd teithio ar ei hyd o Aberhonddu i Fasn Pum Loc yng Nghwmbrân, 7 milltir bellach o gamlas nad oes modd teithio arni i Gasnewydd ar y brif linell, a 7 milltir i Gwmcarn ar gangen Crymlyn.

Mae gan y gamlas nifer o berchnogion ar ei hyd.  Mae’r darn gogleddol yn eiddo i ac yn cael ei reoli gan ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru, tra bod y darn i’r de o Bont-y-pŵl yn eiddo i'r awdurdodau lleol perthnasol - Torfaen, Casnewydd, a Chaerffili.

Ewch i wefan Cyngor Torfaen am fwy o wybodaeth am strategaeth y gamlas

Diwygiwyd Diwethaf: 21/11/2023 Nôl i’r Brig