Penodiadau gwleidyddol allweddol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 16 Mai 2023

Yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Torfaen ddydd Mawrth 16 Mai, cadarnhawyd y penodiadau gwleidyddol allweddol i Gabinet y Cyngor a’i bwyllgorau, ac i gyrff allanol, ar gyfer y flwyddyn sydd ar droed. 

Gweithred gyntaf y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol oedd penodi Aelod Llywyddol a Dirprwy Aelod Llywyddol newydd  ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023/24, i gadeirio cyfarfodydd y Cyngor. 

Ail-etholwyd y Cynghorydd Rose Seabourne yn Aelod Llywyddol y Cyngor ac etholwyd y Cynghorydd Stuart Ashley yn Ddirprwy Aelod Llywyddol. 

Yn dilyn enwebiadau ar gyfer swydd Arweinydd y Cyngor, cafodd y Cynghorydd Anthony Hunt fwyafrif y bleidlais ac fe’i ail-etholwyd yn briodol.  Ail-etholwyd y Cynghorydd Richard Clark yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac ef fydd hefyd â phortffolio Plant, Teuluoedd ac Addysg. 

Ail-benodwyd holl aelodau’r Cabinet dros y portffolios canlynol ar gyfer y flwyddyn sydd ar droed:

  • Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg – y Cynghorydd Richard Clark
  • Aelod Gweithredol dros Gymunedau – y Cynghorydd Fiona Cross
  • Aelod Gweithredol dros Yr Amgylchedd – y Cynghorydd Mandy Owen
  • Aelod Gweithredol dros Adnoddau – y Cynghorydd Sue Morgan
  • Aelod Gweithredol dros Lywodraethu Corfforaethol a Pherfformiad – y Cynghorydd Peter Jones
  • Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai - y Cynghorydd David Daniels
  • Aelod Gweithredol dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio - y Cynghorydd Joanne Gauden

Etholwyd Cadeiryddion y Pwyllgorau fel a ganlyn:

  • Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach – y Cynghorydd Janet Jones
  • Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Llewyrchus - y Cynghorydd Mark Jones
  • Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Glanach – y Cynghorydd David Williams
  • Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg - y Cynghorydd Rose Seabourne
  • Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Trawsbynciol Adnoddau a Busnes - y Cynghorydd Stuart Ashley
  • Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio - y Cynghorydd Norma Parish
  • Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu - y Cynghorydd Steven Evans
  • Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau - y Cynghorydd Nathan Yeowell
  • Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - y Cynghorydd Ron Burnett
  • Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio – i’w ethol gan y pwyllgor

Wrth dderbyn ei benodiad fel Arweinydd Cyngor Torfaen, diolchodd Anthony Hunt i’r Aelod Llywyddol, staff y cyngor a gwirfoddolwyr yn y cymunedau am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf. Wrth siarad yn siambr y cyngor, ychwanegodd y Cynghorydd Hunt:

“Rydym yn wynebu llawer o heriau ar hyn o bryd, fel cadw biliau’r cartref i lawr, rhoi sylw i newid hinsawdd a chynaliadwyedd, gwella gofal, safonau addysg, ein hamgylchedd lleol a gwneud Torfaen yn lle gwell i weithio ac i drafod busnes. Dyma ambell un o’r materion y bydd gofyn i ni roi sylw iddynt trwy gydweithio ar draws y llywodraeth ar bob lefel, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau o bob argyhoeddiad gwleidyddol.”

Dyrennir y 90 o seddi ar bwyllgorau ac is-bwyllgorau amrywiol ar sail cydbwysedd gwleidyddol. Mae’r grŵp llafur, sydd â mwyafrif y bleidlais, yn cael 72 sedd a dyrennir 10 sedd i’r grŵp Annibynnol ac 8 sedd i grŵp Annibynnol Torfaen.

Y Cynghorydd Chris Tew fydd yn parhau fel Arweinydd y grŵp Annibynnol (yr wrthblaid fwyaf), ac mae wedi enwebu’r Cynghorydd Mark Jones  yn Gadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Llewyrchus.

Mae’r Cynghorydd Ron Burnett yn parhau fel Arweinydd grŵp Annibynnol Torfaen (yr wrthblaid ail fwyaf), ac mae wedi enwebu’r Cynghorydd Janet Jones yn Gadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.

Mae’r Cyngor hefyd wedi enwebu i gyrff allanol gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, Tai Cymunedol Bron Afon a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae hefyd wedi enwebu sawl Hyrwyddwr.

  • Aelod-hyrwyddwr Oed-gyfeillgar – y Cynghorydd David Daniels
  • Aelod-hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – y Cynghorydd Peter Jones
  • Aelod-hyrwyddwr Pobl Ifanc – y Cynghorydd Richard Clark
  • Aelod-hyrwyddwr Hyfforddiant a Datblygu Aelodau – y Cynghorydd Ron Burnett
  • Aelod-hyrwyddwr Y Lluoedd Arfog – y Cynghorydd Gaynor James
  • Aelod-hyrwyddwr Gofalwyr – y Cynghorydd David Daniels
  • Aelod-hyrwyddwr Cynaliadwyedd – y Cynghorydd Stuart Ashley
  • Aelod-hyrwyddwr Treftadaeth y Byd – y Cynghorydd Janet Jones
  • Clefyd Niwronau Motor – y Cynghorydd Giles Davies
  • Aelod-hyrwyddwr Dementia – y Cynghorydd Mandy Owen
Diwygiwyd Diwethaf: 16/05/2023 Nôl i’r Brig