Bws recriwtio Gofal Cymdeithasol ar ben ffordd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 14 Mawrth 2023
WeCare Wales Bus

Bydd bws recriwtio newydd sy’n ceisio helpu pobl i gymryd y camau cyntaf i’r sector gofal cymdeithasol, yn teithio trwy Went eleni.

Gan gyd-fynd â Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd, bydd y bws yn cychwyn ei daith ddydd Mawrth 21 Mawrth, gan aros y tu allan i archfarchnad Morrisons yng Nghwmbrân rhwng 10am a 2pm.

Bydd ymwelwyr â’r bws yn gallu siarad â nifer o gyflogwyr gofal cymdeithasol, gan

gynnwys Cyngor Torfaen, i ddechrau eu gyrfaoedd mewn gofal.

Disgwylir y bydd angen cannoedd mwy o bobl yng Ngwent i weithio mewn swyddi gofal cymdeithasol erbyn 2030 os yw’r rhanbarth am ddiwallu’r galw cynyddol am wasanaethau gofal a rhoi cefnogaeth i gymunedau ledled y rhanbarth.

Bydd amrywiaeth eang o swyddi gwerth chweil yn cael eu cynnig a bydd pobl yn cael cyfle i gwrdd ag a siarad â phobl sydd eisoes yn gweithio yn sector gofal cymdeithasol Gwent.

I’r rheiny sydd am ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod estynedig i ffwrdd, neu rai sy’n newydd i fyd gwaith, bydd cynghorwyr cyflogadwyedd ar gael i helpu i ddatblygu hyder a dysgu sgiliau newydd. 

Mae’r bys newydd wedi cael ei ariannu gan fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent, ar y cyd â Gofalwn Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Dywedodd Jason O’Brien, Cyfarwyddwr Strategol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Torfaen a Chadeirydd Bwrdd Gweithlu Rhanbarthol Gwent:

“Mae bws Gofalwn Cymru yn fenter gyffrous i Went. Rydym ni mor falch o allu dod ag amrywiaeth eang o gyflogwyr gofal cymdeithasol ynghyd a dangos i drigolion y rolau amrywiol a gwerth chweil sydd gan y sector i’w cynnig.

“Does dim ffordd well o ddysgu am yrfaoedd mewn gofal cymdeithasol na thrwy alw heibio a chael sgwrs â’r rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y sector.”

Y gobaith yw y bydd yn helpu i godi proffil a dangos ehangder y llwybrau gyrfa gofal cymdeithasol sydd ar gael yn lleol.

Bydd y bws ar y ffordd tan Fedi 2023, gan ymweld â mannau ledled Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Am restr lawn o ddyddiadau ac amserau pan fydd y bws o gwmpas, ewch at wefan Gofalwn Cymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 14/03/2023 Nôl i’r Brig