Hwb Cymorth i Gyn-filwyr ar Fin Agor

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 14 Mehefin 2023
armed forces

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn falch o gyhoeddi lansiad hwb cymorth i gyn-filwyr newydd, sy’n agor yng Nghwmbrân yr wythnos nesaf yn rhan o Wythnos y Lluoedd Arfog 2023.

Mae Hwb Cymorth i Gyn-filwyr Torfaen yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Woodland Road. Mae’n anelu at greu lle diogel a chroesawgar lle gall cyn-filwyr ddod i gysylltiad ag unigolion sydd wedi cael profiadau tebyg.

Bydd yr Hwb ar agor bob dydd Mercher o 10am tan 12pm, ac yn cynnig dewis eang o wasanaethau, gan gynnwys cymorth gyda budd-daliadau a thai, mynediad at adnoddau iechyd meddwl, a chyfleoedd i ennill sgiliau newydd.

Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn deyrnged flynyddol i ddynion a menywod ymroddgar Lluoedd Arfog Prydain, a dethlir yr Wythnos gyda gorymdeithiau, arddangosfeydd a chyngherddau ar draws y wlad.

Eleni bydd Casnewydd yn cynnal gorymdaith filwrol i nodi Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog, ddydd Sadwrn 24 Mehefin, a bydd aelodau’r lluoedd sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr yn cymryd rhan.

Mae’r orymdaith yn dechrau am 10am ac yn ymlwybro o Stryd Fawr i Sgwâr John Frost, ac i ddilyn bydd y Red Arrows yn hedfan drosodd am 11am.

Mynegodd y Cynghorydd Gaynor James, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Torfaen, mor hapus yr oedd i weld yr hwb yn cael ei lansio. Meddai: “Mae lansiad yr hwb cymorth hwn yn arwydd o ymroddiad diysgog y cyngor i gefnogi aberthau ein Cymuned Lluoedd Arfog a’u hanrhydeddu.

Rydym yn cydnabod o waelod ein calonnau yr angen parhaus i roi cymorth i gyn-filwyr, a dangoswyd hyn trwy fentrau fel ein Cyfamod y Lluoedd Arfog. Bydd yr Hwb Cymorth i Gyn-filwyr yn ymdrechu i fod yn adnodd gwerthfawr i gymuned y Lluoedd Arfog, ac yn cydnabod eu cyfraniadau at ein gwlad yn y gorffennol a’r presennol.”

Am ragor o wybodaeth am Hwb Cymorth i Gyn-filwyr Torfaen, cysylltwch â armedforces@torfaen.gov.uk  

Diwygiwyd Diwethaf: 14/06/2023 Nôl i’r Brig