Enillwyr Gwobrau Busnes Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Mehefin 2023
Employer - Safran HQ

Enillodd naw busnes yn Nhorfaen wobrau yng Ngwobrau Busnes cyntaf Torfaen a Sir Fynwy yr wythnos ddiwethaf.

Roedd cyfanswm o 13 o gategorïau, yn cynnwys gwobr Cyflogwr y Flwyddyn. Safran Seats, yng Nghwmbrân aeth â hi.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Y Fenni, a disgwylir i seremoni wobrwyo'r flwyddyn nesaf gael ei chynnal yn Nhorfaen. 

Ein henillwyr oedd:   

Cyflogwr y Flwyddyn: Mae Safran Seats yn arweinydd byd-eang yn y diwydiant awyrofod ac yn cyflogi 83,000 o bobl ar draws y byd. Mae’r cwmni yn creu seddi premiwm sydd yn aml i’w gweld mewn awyrennau dosbarth cyntaf a dosbarth busnes ar draws y byd.

Entrepreneur y Flwyddyn: Kelli Aspland a Laura Waters -Solar Buddies. A hwythau’n wynebu'r broblem o sut i sicrhau y gallai eu plant ddefnyddio eli haul pan nad oedden nhw o gwmpas, aeth Kelli a Laura ati i greu, sefydlu patent a marchnata’r taenwr eli haul cyntaf yn y byd sy’n addas i blant. 

Busnes y Flwyddyn Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol: Mae Quote Detective yn egin fusnes bywiog a chynyddol dan reolaeth y perchennog, sy’n cynnig atebion yswiriant arbenigol a phwrpasol i’r rheini na allent fel arall gael yswiriant gan y farchnad arferol.

Busnes Gwyrdd y Flwyddyn: Mae Zero Waste Torfaen yn siop ail-lenwi yng nghalon Cwmbrân. Mae’n cynnig profiad siopa cynaliadwy, heb blastig, ac mae’n hwb yn y gymuned.

Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn: Mae Frog Bikes yn gwmni dan berchnogaeth deuluol. Mae’n dylunio a chynhyrchu beiciau ysgafn o ansawdd uchel i blant. Mae Frog Bikes yn gwerthu eu cynnyrch ledled y byd drwy siopau beiciau rhyngwladol.

BBaCh y flwyddyn: Mae Pencadlys Freight Logistics Solutions ym Mhont-y-pŵl. Mae’n gwmni digidol sy’n trefnu cludiant ac yn darparu tryciau, faniau ac atebion pwrpasol i gludo llwythi i dros 500 o gwsmeriaid ar draws y Deyrnas Unedig.

Sefydliad Trydydd Sector y Flwyddyn: Mae National Star yn creu amgylcheddau ysgogol a, bywiog, i gefnogi pobl ifanc ac oedolion ag anableddau gyda’r sgiliau, cyfleoedd a’r hyder sydd ei angen arnynt i fyw eu bywydau’n annibynnol ac i’r eithaf.

Busnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn: Mae Cwmni Cheddar Blaenafon yn cynhyrchu ‘casgenni’ caws Cheddar cwyrog. Mae gan y busnes ardal laeth a manwerthu mewn eiddo cyfagos. Ar hyn o bryd maent yn gweithio gyda Visit Britain i dywys ymwelwyr ar lwybr blas, ac maent wedi derbyn statws gwarchodedig am eu Caws Caerffili.

Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr!

Diwygiwyd Diwethaf: 16/06/2023 Nôl i’r Brig