Lansio siop swyddi a sgiliau newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 15 Mehefin 2023
Torfaen Works

Mae siop-un-stop newydd i unrhyw un sy’n chwilio am swydd neu sydd eisiau gwella’i sgiliau, wedi agor yng Nghanol Cwmbrân. Mae’r cyfleuster yn cael ei redeg gan Gyngor Torfaen.

Bydd swyddogion cymorth cyflogaeth yn siop newydd Torfaen yn Gweithio wrth law i ddarparu pecyn o gymorth wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer y rheiny sy’n byw yn Nhorfaen a’r cyffiniau, waeth a ydynt yn ddi-waith neu’n gweithio.

Dyma rai o’r pethau y byddant yn gallu cynnig cymorth ar eu cyfer:

  • Cymorth ymarferol i ysgrifennu CV, ymarfer ar gyfer cyfweliad a chwilio am swydd
  • Gwybodaeth am y farchnad swyddi leol a chyfateb swyddi
  • Cymorth ariannol gyda chostau hyfforddiant
  • Hyfforddiant sgiliau allweddol gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Sgiliau Digidol
  • Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad sy’n ddiduedd i’ch helpu i lunio’ch cynllun gyrfa a sgiliau.

Ariannwyd siop Torfaen yn Gweithio trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae’n olynydd i pod cyngor cyflogaeth a sgiliau CELT Cyngor Torfaen, a oedd wedi’i leoli yn Llyfrgell Cwmbrân.  

Bydd y siop ar agor bob dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener o 10am hyd 4pm, a bob dydd Iau o 11am hyd 6pm.

Fe fydd y rheiny sydd â swydd yn barod yn gallu cael cymorth i’w helpu i gynnal eu swyddi neu i symud ymlaen yn eu swyddi, trwy ennill cymwysterau a sgiliau newydd.

Bydd banc bwyd, sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Banc Bwyd y Cwm Dwyreiniol, hefyd yn cael ei redeg o’r siop a bydd ar agor i bawb.

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Torfaen dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Roedd y pod cyngor cyflogaeth a sgiliau yn Llyfrgell Cwmbrân yn ffordd wych o ddod â llawer o gymorth a chyngor gwahanol at ei gilydd mewn un lleoliad. Gobeithiwn y bydd Torfaen yn Gweithio yn parhau i sicrhau ei bod yn haws i’n trigolion wireddu eu huchelgeisiau.

“Mae Torfaen yn Gweithio yn ddull sydd a waith ar draws y Cyngor i roi cymorth gyda chyflogaeth, ac mae’n sicrhau bod ein gwasanaethau i gyd yn cael eu cyflwyno gyda’i gilydd mewn ffordd syml a’u bod yn hawdd i’n trigolion a’n partneriaid eu deall ac atgyfeirio atynt.

“Yn ogystal â gwybodaeth am swyddi, gyrfaoedd a sgiliau, bydd y tîm hefyd yn gallu rhoi cymorth ariannol a chymorth llesiant er mwyn i bobl deimlo’n hyderus wrth geisio am swyddi.”

Mae Torfaen yn Gweithio yn cynnwys y prosiectau Ffyniant Gyffredin a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, CELT + a Lluosi, yn ogystal â’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth am Torfaen yn Gweithio ffoniwch 01633 647743, anfonwch neges e-bost i employability@torfaen.gov.uk neu rhowch glic ar dudalen Facebook Torfaen yn Gweithio/Torfaen Works.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/06/2023 Nôl i’r Brig