Yr Wythnos Werdd Fawr

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 9 Mehefin 2023

Planhigion am ddim, sgyrsiau byd natur, a gweithdai ar sut i helpu natur. Dyma rhai o’r gweithgareddau y mae’r Cyngor yn eu trefnu drwy gydol Yr Wythnos Fawr Werdd, sy’n dechrau yfory, dydd Sadwrn 10 Mehefin.

Mae’r Wythnos Werdd Fawr, sy’n cael ei threfnu gan fudiadau amgylcheddol ar draws y Deyrnas Unedig, yn ddigwyddiad wythnos o hyd. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth ac annog trigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau’n ymwneud â gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, byw mewn ffordd gynaliadwy a bioamrywiaeth.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r Wythnos Fawr Werdd, a chael cyfle i gydweithio gyda'n trigolion a'n partneriaid i gymryd camau pwrpasol tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

"Drwy'r digwyddiadau hyn, ein nod yw codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd cadwraeth amgylcheddol, hyrwyddo arferion ecogyfeillgar, ac ysbrydoli ein cymuned i groesawu byw’n gynaliadwy. Trwy weithio gyda’n gilydd, credwn y gallwn wneud effaith sylweddol, drwy leihau ein hôl-troed carbon a gwarchod ein hadnoddau naturiol."

Anogir busnesau, ysgolion, sefydliadau cymunedol a thrigolion lleol i gymryd rhan yn yr Wythnos Werdd Fawr drwy drefnu eu digwyddiadau a'u gweithgareddau eu hunain.

Gallwch ddarganfod pa weithgareddau sy'n digwydd yn agos atoch chi, gan gynnwys y rhai a drefnir gan Gyngor Torfaen, drwy fynd i https://greatbiggreenweek.com/find-an-event/

Darganfyddwch sut mae'r Cyngor wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar newid yn yr hinsawdd a natur.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/06/2023 Nôl i’r Brig