Hyrwyddwyr gofalwyr yn cefnogi cydweithwyr

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 7 Mehefin 2023
IMG_8977

Mae Cyngor Torfaen wedi sefydlu Rhwydwaith Hyrwyddwyr Gofalwyr i helpu i roi cyngor a chymorth i staff sy’n ofalwyr di-dâl.

Amcangyfrifir bod dros 6.5 miliwn o ofalwyr yn y DU, gydag 1 o bob 7 o bawb sy’n gweithio yn ceisio cydbwyso gwaith a gofal am anwyliaid, cyfystyr â 223,000 o weithwyr.

Llynedd, Cyngor Torfaen oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i gael Achrediad Cyflogwr Cyfeillgar i Ofalwyr gan Care Collective, yr elusen fwyaf sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Daeth hyn ar ôl i’r cyngor gyflwyno Polisi Gofalwyr newydd, sy’n rhoi mwy o hyblygrwydd i staff sy’n gofalu trwy gynllun cefnogaeth bersonol a gwyliau ychwanegol i ofalwyr, yn ogystal â hyfforddiant i reolwyr.

Dywedodd yr Hyrwyddwr Gofalwyr Mel Smith, sy’n gweithio i Lyfrgelloedd Torfaen ac sy’n gofalu am ei thad: "Mae’n dda cael gwybod bod cydweithwyr ar gael i siarad â nhw sy’n deall straen a phwysau gofalu am rywun.

"Mae’r gwyliau ychwanegol wedi bod yn gymorth hefyd – defnyddiais i hyn er mwyn rhoi cymorth ymarferol pan gwympodd fy nhad llynedd.  Gall fod yn anodd ymdopi wrth ofalu am aelod o’r teulu ochr yn ochr â gwaith, ond mae’n bwysig bod gofalwyr yn gofalu am eu hunain.”

Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, yr Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai, sydd newydd ei benodi’n Hyrwyddwr Gofalwyr y Cyngor: "Mae buddsoddi mewn staff sy’n gofalu am anwyliaid yn hanfodol ar gyfer eu lles, yn ogystal â lles y bobl hynny y maen nhw’n goflau amdanynt. 

"Mae’r broses o gyflwyno polisi newydd i ofalwyr di-dâl wedi helpu’r sefydliad drwyddo draw i ddeall yn well ac i werthfawrogi gwaith gofalwyr di-dâl a sut allwn ni gynnig mwy o gefnogaeth."

Ychwanegodd Tracy Harris, o Dîm Datblygiad Sefydliadol y Cyngor: "Rydym yn gobeithio y bydd yr Hyrwyddwr Gofalwyr yn helpu mwy o staff trwy godi ymwybyddiaeth o’r Polisi Gofalwyr a rhannu manylion y gefnogaeth sydd ar gael i’w helpu i gydbwyso’u cyfrifoldebau gwaith a gofal.  Hoffem hefyd weld gofalwyr eraill yn ystyried dod i weithio i Gyngor Torfaen." 

Mae gofalwyr di-dâl ledled y fwrdeistref yn cael eu dathlu'r wythnos yma fel rhan o Wythnos Gofalwyr.

Am wybodaeth am y digwyddiadau’r wythnos yma, yn ogystal â gweithgareddau rheolaidd i ofalwyr di-dâl a’u hanwyliaid, cysylltwch â louise.hook@torfaen.gov.uk neu chwiliwch am Torfaen Adult Carers neu Torfaen Young Carers ar Facebook.

Mae Llyfrgelloedd Torfaen yn cynnal digwyddiad Forget Me Not Friday bob wythnos yn Llyfrgell Cwmbrân i unrhyw un sy’n gofalu am rywun annwyl â dementia. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01633 647676. 

(Yn y llun o’r chwith i’r dde: Hyrwyddwyr Gofalwyr Louise Hook, Mel Smith, y Cynghorydd David Daniels a Tracy Harris.)

Diwygiwyd Diwethaf: 07/06/2023 Nôl i’r Brig