Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn ymddangos mewn map UNESCO newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25 Gorffennaf 2023

Mae treftadaeth ddiwydiannol Blaenafon wedi ei chynnwys mewn map rhyngweithiol newydd sy’n dathlu safleoedd UNESCO yn y DU, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw.  

O fynydd-diroedd eang ac arfordiroedd trawiadol i ddinasoedd bywiog a thirweddau gwledig - mae safleoedd UNESCO yn y DU yn gyrchfannau treftadaeth naturiol a diwylliannol o’r radd flaenaf. 

Mae’r map newydd, a rhyddhawyd ar-lein yr wythnos yma, yn cynnwys 29 o Safleoedd Treftadaeth y Byd, 13 o Ddinasoedd Creadigol, 9 Geoparc Byd-eang a 7 o Warchodfeydd Biosffer dros 13 y cant o dir y DU. 

Mae’r map, a ddyluniwyd gan y mapiwr creadigol, Tom Woolley, yn pwysleisio bod Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon "yn dyst i ymdrech dynol ac mae wedi ei ffurfio gan ddwy ganrif o gloddio glo a gwneud haearn", ochr yn ochr â lleoliadau eraill gan gynnwys golygfeydd godidog y dirwedd llechi yn y Gogledd Orllewin ac yn Ucheldiroedd yr Alban, treftadaeth lenyddol Manceinion a Chaeredin a mynyddoedd Ardal Llynnoedd Lloegr neu gopaon Fforest Fawr. 

Gwahoddir ymwelwyr i glicio a dysgu mwy am atyniadau allweddol yn Nhirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, gan gynnwys Canolfan Treftadaeth y Byd, Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Big Pit, Gweithfeydd Haearn Blaenafon a Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon, yn ogystal â Thref Dreftadaeth Blaenafon. 

Dywedodd James Bridge, Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd Cyffredinol Comisiwn Cenedlaethol y DU  dros UNESCO: “Bydd y map UNESCO yn y DU newydd yn ysbrydoli pobl gyda mannau i ymweld â nhw. Mae’n dangos amrywiaeth y dreftadaeth naturiol, ddiwylliannol, ac wedi ei hadeiladu a ddynodwyd gan UNESCO fel rhywbeth sy’n arwyddocaol yn rhyngwladol yn y DU.  Mae’r map gwych yma’n dangos mannau i fynd atynt, ar eich stepen drws a thu hwnt, rhai enwog a’r rheiny i’w canfod am y tro cyntaf.” 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Rwy’n hynod o falch fod Cymru’n gartref i bedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae’r map newydd yma’n dangos ein cyrchfannau mewn ffordd hyfryd, ac wrth i ni barhau i warchod y safleoedd yma, bydd eu harwyddocâd yn cael ei fwynhau gan genedlaethau i ddod. Mae Cymru’n genedl agored a chroesawgar, un sy’n gwahodd y byd i ganfod ein rhyfeddodau naturiol, a diwylliant a threftadaeth y mae safleoedd UNESCO’n cynnig.” 

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Rydym yn hynod o falch fod Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn un o’r 29 o Safleoedd Treftadaeth y Byd sydd ar y map newydd yma. 

"Rwy’n annog pobl i ymweld a mwynhau'r cyfan sydd gan y lle anhygoel yma i’w gynnig, o’r dirwedd anhygoel, syfrdanol i’r atyniadau gwych, y safleoedd a’r gweithgareddau sydd ar gael sy’n adrodd ac yn dangos hanes cymdeithasol a diwydiannol de Cymru.” 

Cynhyrchwyd y map gan Gomisiwn Cenedlaethol y DU dros UNESCO fel rhan o brosiect Local to Global, a gafodd ei wneud yn bosibl gan ymgyrch GREAT a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda diolch i bobl sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol.  Bwriad Local to Global yw datblygu rhwydwaith cydnerth ar gyfer Safleoedd Dynodedig UNESCO yn y DU. 

Gallwch lawrlwytho’r map o wefan UNESCO. 

Dysgwch fwy am Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ar wefan Visit Blaenavon 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/07/2023 Nôl i’r Brig