Ymunwn gyda'n gilydd i leihau'r perygl o lifogydd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20 Gorffennaf 2023

Mae trigolion a busnesau’n cael eu gwahodd i roi eu barn ar gynllun drafft chwe blynedd i leihau nifer y llifogydd yn y fwrdeistref.  

Yn ôl data gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae un o bob 15 o gartrefi yn Nhorfaen mewn perygl o lifogydd.  

Mae mwy o lifogydd wedi bod yn Nhorfaen yn ystod y blynyddoedd diweddar, gan gynnwys Mai 2014, pan gafwyd storm anghyffredin, gan beri llifogydd mewn mwy na 190 o adeiladau yng Nghwmbrân mewn llai nag awr.  

Mae cynghorau lleol yn gweithio gyda sefydliadau eraill i reoli a lleddfu’r perygl o lifogydd, ond, fel yr awdurdod arweiniol, mae’n rhaid iddyn nhw gynhyrchu Strategaeth Rheolaeth Perygl Llifogydd Lleol (LFRMS).  

Bydd eich barn ar Strategaeth drafft Cyngor Torfaen yn dylanwadu ar sut mae’r awdurdod yn atal ac yn ymdrin â’r perygl o lifogydd, gan gynnwys faint mae pobl yn deall am y peryglon.  

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Bydd tywydd eithafol sy’n cael ei achosi gan newid yn yr hinsawdd yn gwneud y perygl o lifogydd yn rhywbeth mwy aml.  

“Dyma pam mae angen cynllun cydnerth er mwyn lleihau perygl o lifogydd a’u heffaith os digwydd hynny.   

“Bydd y cynllun yma’n effeithio ar bawb yn y fwrdeistref, yn drigolion ac yn fusnesau, felly rwy’n annog pawb i gymryd rhan a rhoi eu barn ynglŷn â sut allwn ni reoli llifogydd yn Nhorfaen yn y ffordd orau,"  

Nod y cynllun yw:  

  • Gwella’n dealltwriaeth o wybodaeth gyhoeddus o lifogydd, a sut allwn ni gyfathrebu gyda’r cyhoedd am lifogydd  

  • Cryfhau paratoadau ar gyfer llifogydd a datblygu gwydnwch yn ein cymuned  

  • Rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn gwarchod y rheiny sydd yn y perygl mwyaf o ddioddef llifogydd  

  • Atal unigolion eraill rhag cael eu gwneud yn agored i beryglon llifogydd.  

  • Sefydlu trefn ymateb effeithiol a chynaliadwy ar gyfer llifogydd yn y dyfodol.  

I roi eich barn a’ch sylwadau ar y strategaeth drafft chwe blynedd, ewch i wefan Cymerwch Ran y Cyngor.  

 

Diwygiwyd Diwethaf: 20/07/2023 Nôl i’r Brig