Gŵyl Bêl-droed yn Grymuso Merched ac yn Hyrwyddo Cynhwysiant

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 13 Gorffennaf 2023
all girls football festival

Yr wythnos hon, fe fu tua 100 o ferched o ysgolion cynradd ledled Torfaen yn cymryd rhan mewn gŵyl bêl-droed yn Stadiwm Cwmbrân, wrth i’r paratoadau at Gwpan y Byd Merched FIFA fynd rhagddynt.

Cyflwynodd yr ysgolion dimau a gynrychiolai wledydd o’r twrnamaint sydd ar droed ac sy’n dechrau ddydd Iau 20 Gorffennaf.

Rhoddwyd i bob tîm y dasg o greu ffeiliau o ffeithiau difyr a baneri ac roeddent yn gwisgo lliwiau’r gwledydd yr oeddent yn eu cynrychioli.

Un o’r rheiny a fu’n cymryd rhan oedd Elise, disgybl o Flwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon, a ddywedodd: “Rydw i wir wedi mwynhau’r ŵyl – mae wedi bod yn ddifyr i beidio â bod yn yr ysgol ac i fod gyda fy ffrindiau yn chwarae pêl-droed.”

Meddai Miley, disgybl o Flwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands: “Cynrychiolodd fy nhîm yr Almaen yn yr ŵyl, a gwnes i fwynhau dysgu pethau diddorol am y wlad honno yn fawr iawn. Mae hefyd wedi bod yn ddifyr cydweithio fel tîm”.

Cynhaliwyd y diwrnod gan Dîm Datblygu Chwaraeon Torfaen ac roedd yn annog ysgolion i gynnwys pynciau fel rhifedd, llythrennedd a daearyddiaeth, trwy gyfrwng chwaraeon.

Roedd Jess Williams o dîm pêl-droed merched Dinas Abertawe wrth law hefyd i drosglwyddo rhywfaint o’i gwybodaeth a’i chyngor i’r chwaraewyr, ac roedd yn ddyfarnwr hefyd ar rai o’r gêmau, ochr yn ochr ag Arweinwyr Chwaraeon Cyngor Torfaen a Heddlu Gwent.

Daeth y clybiau pêl-droed lleol, Gleision Blaenafon a Choed Eva, i’r digwyddiad hefyd i gynnig cyfle cyffrous i ddisgyblion i ymuno â nhw ac i fynd ar drywydd eu cariad at y gêm.

Meddai Jacob Guy, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cyngor Torfaen: “Rydyn ni wedi bod yn cynnal yr ŵyl bêl-droed hon nawr ers sawl blwyddyn, oherwydd y cynnydd ym mhoblogrwydd y gêm a’r galw cynyddol am y gêm ymhlith merched. 

“Trwy wneud hynny, mae’n gyfle i ni agor llwybrau i mewn i glybiau lleol a gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Heddlu Gwent, i hyrwyddo pwysigrwydd cynhwysiant ym maes chwaraeon ac yn y gymdeithas.”

Lloegr yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i ennill lle yn y gystadleuaeth, a bydd y gêm gyntaf yn erbyn Haiti ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf.

Am ragor o wybodaeth am ddarpariaeth chwaraeon tîm datblygu chwaraeon y cyngor, ffoniwch 01633 628936 neu ewch i’r dudalen Facebook.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/07/2023 Nôl i’r Brig