Cynlluniau ar gyfer ynni di-garbon

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 4 Gorffennaf 2023

Mae glasbrint ar gyfer sut y bydd allyriadau carbon yn Nhorfaen yn cael eu lleihau i sero net erbyn 2050 yn cael ei ddatblygu. 

Bydd Cynllun Ynni yr Ardal Leol yn nodi sut y gallai system ynni di-garbon edrych a beth sydd angen ei wneud i drawsnewid y ffordd y mae ynni'n cael ei ddefnyddio a'i gynhyrchu yn y fwrdeistref.

Daw ffynonellau allweddol yr allyriadau yn y fwrdeistref o gartrefi, trafnidiaeth a busnesau, ac mae’r cynllun yn cael ei lunio mewn cydweithrediad ag arbenigwyr o'r sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i Gymru fod yn ddi-garbon erbyn 2050, gyda phob awdurdod lleol yn dod yn garbon sero-net erbyn 2030.

Sero carbon net yw lle mae cydbwysedd rhwng y carbon sy'n cael ei allyrru i'r atmosffer a'r carbon sy'n cael ei dynnu ohono. Gellir gwneud hyn drwy leihau allyriadau a chynyddu’r carbon sy’n cael ei ddal drwy brosesau diwydiannol a diogelu ecosystemau fel coedwigoedd, dolydd blodau a mawnogydd.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae 2050 yn teimlo'n bell i ffwrdd,  ond mae’n bwysig ein bod yn ystyried pa newidiadau sydd angen i ni wneud i’r seilwaith fel y gallwn ddechrau lleihau allyriadau ar raddfa fawr, a hynny cyn gynted ag y bo modd.  

"Bydd y Cynllun Ynni Ardal Leol yn bwysig i gefnogi'r daith sero net. Rydym hefyd wedi rhoi blaenoriaeth i leihau allyriadau carbon a diogelu ein cynefinoedd naturiol yn ein Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur a’r Cynllun Sirol.

"Mae’n Wythnos Sero Net yr wythnos hon, sy'n gyfle da i bob un ohonom feddwl am leihau ein hôl troed carbon ein hunain." 

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cydlynu cynlluniau ynni ardal leol ar draws y rhanbarth, gyda'r nod o'u cwblhau erbyn mis Mawrth 2024.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n cael ei wneud yn Nhorfaen i leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gallwch ddarllen ein Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur neu gynllun y cyngor, Dyfodol Torfaen – Cynllun Sirol.

Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook, Instagram a Twitter neu chwilio #Torri’rCarbonTorfaen #MeithrinNaturTorfaen i ddarllen y diweddaraf am y prosiectau.

Sut y gallwch leihau eich allyriadau carbon eich hun trwy roi clic ar wefan Wythnos Sero Net.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/07/2023 Nôl i’r Brig