A ydych chi wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 3 Gorffennaf 2023

Mae Cyngor Torfaen wedi ymuno ag ymgyrch genedlaethol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chadw pobl yn Nhorfaen yn ddiogel.

Cynhelir Wythnos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2023 rhwng y 3ydd a’r 9fed o Orffennaf. Ei nod yw annog cymunedau i sefyll yn erbyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a thynnu sylw at y camau y gellir eu cymryd gan y rhai sy’n dioddef o’i herwydd.

Yn dilyn ymchwil diweddar YouGov a gomisiynwyd gan Resolve, prif sefydliad Ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol y Deyrnas Unedig, canfuwyd bod bron i 1 o bob 5 o bobl wedi gorfod ystyried symud gartref oherwydd yr effaith y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei gael arnynt. Roedd 1 o bob 10 eisoes wedi symud.

Er gwaethaf hyn, ni wnaeth dros hanner y rhai a holwyd a oedd naill ai'n ddioddefwr neu'n dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol adrodd y fath ymddygiad.

Mae Cyngor Torfaen yn annog aelodau o'r cyhoedd i beidio â dioddef yn dawel os ydyn nhw'n wynebu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir rhoi gwybod i dîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Cyngor am unrhyw achos sy’n codi, drwy ffonio 01495 762200.

Os yw pobl yn teimlo eu bod mewn perygl uniongyrchol, dylent alw’r Heddlu ar 999.

Dywedodd Rebecca Bryant OBE, Prif Weithredwr Resolve:

“Nid yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn fater lefel isel.  Gall gael effaith ddinistriol a hirhoedlog ar fywydau dioddefwyr a chymunedau a gall arwain at droseddau mwy difrifol.

“Mae'n bwysig bod Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn her sy’n parhau i gael y flaenoriaeth sydd ei hangen, fel y gall pobl ymhobman deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau.  

“Rydym yn falch iawn bod Torfaen yn cefnogi’r fath ymgyrch hollbwysig. Mae’n hanfodol datblygu dulliau o weithio mewn partneriaeth ar draws cymunedau i ddelio â’r heriau cynyddol sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.”

I gael mwy o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ewch i www.resolveuk.org.uk

 
Diwygiwyd Diwethaf: 03/07/2023 Nôl i’r Brig