Adroddiad ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3 Chwefror 2023

Bydd adroddiad ar ddyfodol y gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Nhorfaen yn cael eu trafod gan aelodau pwyllgor craffu’r wythnos nesaf. 

Mae’r adroddiad yn amlinellu bod cyfraddau ailgylchu yn Nhorfaen o dan darged ailgylchu Llywodraeth Cymru o 64 y cant - ac ar drywydd i fethu targed ailgylchu o 70 y cant erbyn 2025 yn sylweddol. Gallai’r cyngor gael dirwy o £100,000 am bob un y cant o dan darged 2025.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno opsiynau ar gyfer lleihau casgliadau gwastraff – casgliadau bin tenau neu glawr porffor – ac ehangu’r gwasanaeth ailgylchu i gynnwys casgliadau cardbord ac eitemau trydanol bach, fel ffordd o wella cyfraddau ailgylchu. 

Mae dadansoddiad allanol wedi dangos bod dros 50 y cant o sbwriel sy’n cael ei osod mewn biniau gwastraff cyffredinol clawr porffor yn gallu cael ei ailgylchu, gan gynnwys gwastraff bwyd a gardd, cardbord a phapur.

Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio bod cyfraddau ailgylchu yn Nhorfaen wedi cynyddu bron i 10 y cant ar ôl cyflwyno biniau tenau yn 2015.

Nawr, mae swyddogion wedi edrych ar bedwar newid posibl i gasgliadau gwastraff.  Roedd pob opsiwn yn cynnwys symud at gasglu cardbord pob wythnos yn lle pob pythefnos a chyflwyno casgliadau eitemau trydanol bach, gyda dim newid i gasgliadau ailgylchu eraill a gwastraff gardd a bwyd. 

O ran yr effaith ar gyfraddau ailgylchu, canfuwyd:

  • Byddai lleihau’r biniau olwynion o 140 litr i 120 litr ond eu cadw’n gasgliadau pob pythefnos yn cynyddu’r gyfradd ailgylchu i 64%
  • Byddai newid o finiau olwynion at ddau sach nad oes modd eu hailddefnyddio’n cynyddu’r gyfradd ailgylchu i 64%
  • Byddai cadw’r biniau olwynon 140 litr a lleihau nifer y casgliadau o bob pythefnos i bob tair wythnos yn cynyddu’r gyfradd ailgylchu i 66%
  • Byddai cadw’r biniau olwynon 140 litr a lleihau nifer y casgliadau i bob pedair wythnos yn cynyddu’r gyfradd ailgylchu i 68%.

Mae swyddogion wedi argymell bod cynghorwyr yn anwybyddu’r ddau opsiwn cyntaf ar sail cost buddsoddi mewn biniau olwynion llai o faint neu sachau nad oes modd eu hailddefnyddio, a’r effaith bach iawn y bydd yn cael ar gyfraddau ailgylchu.

Yn ôl yr adroddiad, mae cynllun ar wahân yn cael ei ddatblygu i geisio cynyddu nifer y casgliadau o Gynhyrchion Hylendid Amsugnol, fel cewynnau, o bob pythefnos i bob wythnos ac mae adroddiad pellach ar gamau gorfodi pellach hefyd yn cael ei baratoi.  Byddai gasgliadau gwastraff yr ardd yn aros yr un fath.

Dywedodd Simon Anthony, Pennaeth Ailgylchu ac Amgylchedd Cyngor Torfaen: “Mae cynyddu'r hyn sy’n cael ei ailgylchu a lleihau'r hyn sy’n mynd i’w gladdu neu Ynni o Wastraff yn dda i’r amgylchedd yn y pen draw.  Mae’n cefnogi dyheadau’r cyngor i ostwng carbon ac mae ailgylchu mwy a gwella’r amgylchedd lleol yn un o’n blaenoriaethau ar gyfer y sir hefyd.

“Mae Torfaen wedi perfformio’n dda yn hanesyddol ond mae yna ormod o bethau o hyd sy’n mynd gyda’r gwastraff cyffredinol a allai gael eu hailgylchu. Heb newid, ni fyddwn ni’n cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru.

"Rydym am ymgysylltu â’r cyhoedd nesaf ynglŷn â beth fydd yn ein helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu a beth allwn ni wneud i’w helpu i ailgylchu mwy.”

Bydd aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Glanach yn cyfarfod am 10am ddydd Iau 9 Chwefror i drafod yr adroddiad.

Gallwch ddarllen yr adroddiad yn llawn yma. Gallwch wylio’r cyfarfod yn fyw ar ein gwefan neu ei wylio nes ymlaen trwy ein tudalen YouTube.

Diwygiwyd Diwethaf: 03/02/2023 Nôl i’r Brig