Casgliadau ailgylchu a gwastraff y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023

Ni fydd newidiadau i ddiwrnodau casglu yn yr wythnos yn arwain at y Nadolig.

Serch hynny, bydd newidiadau i gasgliadau am bythefnos ar ôl y Nadolig.

Dyddiadau casglu:         

Casgliadau ailgylchu a gwastraff y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Dyddiad casglu arferolDiwrnod casglu newydd
Dydd Llun 25 Rhagfyr Dydd Mercher 27 Rhagfyr
Dydd Mawrth 26 Rhagfyr Dydd Iau 28 Rhagfyr
Dydd Mercher 27 Rhagfyr Dydd Gwener 29 Rhagfyr
Dydd Iau 28 Rhagfyr Dydd Sadwrn 30 Rhagfyr
Dydd Gwener 29 Rhagfyr Dydd Sul 31 Rhagfyr
   
Dydd Llun 01 Ionawr 2024 Dydd Mawrth 02 Ionawr
Dydd Mawrth 02 Ionawr Dydd Mercher 03 Ionawr
Dydd Mercher 03 Ionawr Dydd Iau 04 Ionawr
Dydd Iau 04 Ionawr Dydd Gwener 05 Ionawr
Dydd Gwener 05 Ionawr Dydd Sadwrn 06 Ionawr

Cofiwch – rhaid i wastraff ac ailgylchu gael eu rhoi allan cyn 7am ar y diwrnod casglu.

Gall pob aelwyd roi un sach du ychwanegol o wastraff gyda’u casgliad cyntaf o'r bin clawr porffor ar ôl y Nadolig.

Bydd ein criwiau’n brysur iawn dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, felly, os yw casgliad eich gwastraff neu ailgylchu’n cael ei fethu, gadewch e allan hyd nes y bydd wedi i gasglu.

Gwahanwch
I helpu ein criwiau, byddai’n gymorth pe bai trigolion yn gwahanu eu deunydd ailgylchu cymaint â phosibl. Mae hyn yn helpu i gyflymu casgliadau oherwydd does dim rhaid i griwiau ddidoli wrth ymyl y ffordd.

Gwasgwch
Gall gwasgu eich ailgylchu helpu i wneud lle yn eich biniau a blychau.

Ystyriwch
Ar gyfartaledd, gall 62 y cant o wastraff yn y biniau tenau gael ei ailgylchu. I leihau’r gwastraff yn eich bin du, ailgylchwch unrhyw fwyd, gwydr, papur, cerdyn, plastig, caniau a thecstilau.

Rhowch gardiau Nadolig yn eich sach cardbord glas i’w hailgylchu. Yn anffodus, nid ydym yn gallu ailgylchu papur lapio.

Os oes gyda chi goeden Nadolig go iawn, unwaith y bydd wedi dod i ddiwedd ei bywyd, gall gael ei chymryd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i’w thorri a’i defnyddio fel compost.

Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Mae’r safle ar agor pob dydd rhwng 10am – 3.45pm ac eithrio Diwrnod Nadolig, Diwrnod San Steffan a Dydd Calan pan fydd ar gau.  Bydd mynediad olaf i’r safle i gerbydau am 3:45pm

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi didoli eich gwastraff ac ailgylchu cyn dod, ac, os ydych chi’n fan neu’n fusnes, gwnewch yn siŵr fod gyda chi drwydded gyfredol i’r fan.  Gwnewch gais am un yma.

The Steelhouse
Gallwch roi eitemau o ansawdd da i siop ailddefnyddio The Steelhouse, wrth ymyl Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Oriau agor y Nadolig:
Dydd Sul 24 Rhagfyr – 9.30am - 1pm
Dydd Llun 25 Rhagfyr – Ar gau
Dydd Mawrth 26 Rhagfyr – Ar gau
Dydd Mercher 27 Rhagfyr – 9.30am – 4.30pm
Dydd Iau 28 Rhagfyr  – 9.30am – 4.30pm
Dydd Gwener 29 Rhagfyr –9.30am – 4.30pm
Dydd Sadwrn 30 Ionawr 2024 – 9.30am - 4.30pm
Dydd Sul 31 Ionawr – 9.30am - 1pm
Dydd Llun 01 Ionawr – Ar gau
Dydd Mawrth 02 Ionawr – 9.30am – 4.30pm 

Y Caffi Atgyweirio
Bydd y Caffi Atgyweirio ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ar gau Ddydd Mercher 27 Rhagfyr ond bydd ar agor Ddydd Iau 28 Rhagfyr.

Diwygiwyd Diwethaf: 03/01/2024 Nôl i’r Brig