Cynllun Sirol Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Tachwedd 2022
Future Torfaen Web tile

Mae Cyngor Torfaen yn gofyn am adborth ar eu cynllun sirol newydd. Mae’r cynllun sirol yn cyflwyno 9 nod lles a fydd yn helpu i benderfynu pa wasanaethau mae’r cyngor yn cyflenwi a sut y bydd yn blaenoriaethu arian rhwng 2022 a 2027.

Dywedodd y Cyng.  Anthony Hunt: “Mae ein cynllun sirol wedi ei ddatblygu ar sail ymrwymiadau a gafodd eu gwneud i’r cyhoedd i wella ein sir, a gyrwyr allweddol ynglŷn â sut byddwn yn gweithio i wella lles cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Torfaen.

“Mae pandemig Covid a’r argyfwng costau byw presennol wedi ein hatgoffa am bwysigrwydd gwasanaethau rheng flaen y cyngor a’n rôl wrth gefnogi pobl a chymunedau.  Mae e hefyd wedi cadarnhau'r nerth sy’n dod o gydweithio i wella bywydau pobl.

“Rydym yn realistig ynglŷn â maint yr her bresennol - mae colli arian gan y llywodraeth, cynnydd mewn costau trwy chwyddiant a galwadau cyfnewidiol yn golygu wynebu dewisiadau anodd ynglŷn â ble i ganolbwyntio adnoddau. Dylai pob dim yr ydym yn gwneud gael ei yrru gan yr angen i helpu trigolion i fyw eu bywydau pob dydd a rhoi cefnogaeth pan fydd ei hangen fwyaf ar adegau gwahanol yn eu bywydau.

Dywedodd Prif Weithredwr y cyngor, Stephen Vickers: “Rydym wedi cyflwyno’n huchelgeisiau a’n dyheadau ar gyfer Torfaen am y 5 mlynedd nesaf ac mae ein cynllun sirol yn ymwneud â chyflenwi nawr. Bydd y cynllun yn llywio sut byddwn yn ymateb i anghenion, heriau a chyfleoedd i’n trigolion a’n cymunedau. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau bod ein huchelgeisiau’n troi at y camau cywir.

“Fel teuluoedd ledled y fwrdeistref, rydym hefyd yn profi costau chwyddiant sylweddol sy’n creu ein pwysau ‘cost cyflenwi’ ein hunain. Serch hynny, er bod yr hinsawdd ariannol yn heriol, nid yw hyn yn amser i leihau ein huchelgais ar gyfer y wlad.” 

Mae’r cynllun yn amlinellu 4 thema o Lesiant, Cynaliadwyedd, Cysylltedd a Diwylliant a Threftadaeth a 9 nod llesiant a fydd yn cael eu defnyddio i lywio proses y cyngor o wneud polisi a threfnu gwasanaethau dros y 5 mlynedd nesaf.

Y 9 amcan llesiant yw:

  1. Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol
  2. Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallan nhw ffynnu
  3. Byddwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal sy’n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus
  4. Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn gorfforol
  5. Byddwn yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i’r amgylchedd lleol
  6. Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i fod mewn busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog busnesau newydd a gweithgareddau entrepreneuraidd
  7. Byddwn yn hybu bywydau mwy iach yn Nhorfaen er mwyn gwella lles meddyliol a chorfforol
  8. Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a threftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac i ymweld ag e.
  9. Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu’r ffordd mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau

Mae’n cynnwys cynllun cyflenwi blynyddol, a fydd yn gosod gerbron y targedau ar gyfer pob blwyddyn ac adolygiad o dargedau’r flwyddyn gynt.

I weld y cynllun ac i leisio’ch barn, ewch i Dweud Eich Dweud Torfaen.

Gallwch hefyd gymryd rhan yn ein harolwg blynyddol o drigolion a dweud wrthym ni beth yw eich blaenoriaethau ar Get Involved Torfaen.

Neu gallwch fynd i un o’n sesiynau galw heibio cyhoeddus a siarad â’n tîm ymgysylltiad:

* Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, dydd Mercher, Tachwedd 16, 10am tan 4pm

* Canolfan Treftadaeth y Byd, Blaenafon, dydd Mercher, Tachwedd 23, 10am tan 4pm 

Diwygiwyd Diwethaf: 11/11/2022 Nôl i’r Brig