Angen gofalwyr maeth ar frys ledled Cymru

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 2 Tachwedd 2022
foster carer rec event CYM

Gyda rhyw 550 o ofalwyr maeth eu hangen bob blwyddyn yng Nghymru, mae digwyddiad recriwtio unwaith ac am byth yn digwydd i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ofalwyr yn ddiweddarach y mis yma.

Yn cael ei drefnu gan dimau Maethu Cymru ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd a Thorfaen, bydd darpar ofalwyr maeth yn cael y cyfle i ddysgu mwy am y gwahanol fathau o rolau maethu sydd ar gael, a’r manteision niferus sy’n dod gyda hynny.

Mae’r cyfan yn digwydd ar ddydd Sadwrn 26 Tachwedd yn y Glass Hall, Marchnad Casnewydd, lle gall pobl bicio draw rhwng 11am a 3pm.

Nod y digwyddiad yw taflu goleuni ar bwysigrwydd plant a phobl ifanc yn aros yn eu hardaloedd lleol, ynghyd â galw cynyddol i faethu ceiswyr lloches ifanc sy’n cyrraedd y DU heb unrhyw le i fyw.

Meddai Nina Kemp-Jones, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol ar gyfer Maethu Cymru yng Ngwent: “Rydym angen mwy o ofalwyr maeth ar frys, ar gyfer plant lleol ac ar gyfer nifer cynyddol o ffoaduriaid ifanc.

“Daw mwy na 100 o ffoaduriaid ifanc i Gymru bob blwyddyn ac mae canran uchel ohonynt yn cael eu lleoli yn yr ardal leol. Dylai Cymru fod yn lle croesawgar i ffoaduriaid ifanc sy’n chwilio am loches.”

Fel rhan o ymgyrch genedlaethol i gael mwy o ofalwyr maeth yng Nghymru, rhannodd Mike, gofalwr maeth o Gasnewydd, ei brofiad ef:

“Mae wedi ehangu fy nealltwriaeth o ddiwylliannau gwahanol ac wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor debyg yw pawb. Rydym oll eisiau’r un pethau. Edrychais ar ôl un gŵr ifanc a briododd y llynedd; roedd gyda mi am dair blynedd. Mae’n siarad gyda mi bob wythnos o hyd. Mae’n fy nhrin fel ffigur tadol ac mae eraill sy’n dal i fyw yn yr ardal leol, ac rwy’n eu gweld yn rheolaidd.

“Mae’r rhain yn bobl ifanc sydd angen help ac amddiffyniad, ac rwy’n ystyried bod hynny yn bwysig iawn. Rwy’n gwybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth.”

I gael gwybod mwy am faethu gyda Chyngor Torfaen, ewch i: fosterwales.torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 02/11/2022 Nôl i’r Brig