Sioeau Teithiol Wythnos Gofalwyr

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 31 Mai 2022

Fel rhan o Wythnos y Gofalwyr yr wythnos nesaf, mae Cyngor Torfaen yn trefnu cyfres o sioeau teithiol gyda’r bwriad o helpu gofalwyr di-dâl sy’n pryderu am gostau byw cynyddol.  

Bydd cyngor ar fudd-daliadau a grantiau, gwybodaeth ynglŷn â sut i leihau costau ynni a biliau eraill a manylion ynglŷn â sut i gael talebau banc bwyd.

Bydd sesiynau hefyd ar sut i ofalu am eich gardd a thyfu’ch bwyd eich hun, gwybodaeth am grwpiau cymorth lleol, cyngor iechyd a lles, a chyfle o ofalwyr ifanc gofrestru gyda’n cynllun Cerdyn Gofalwyr Ifanc. 

Bydd y sioeau’n cael eu cynnal rhwng 10am a 4pm ar:

  • Ddydd Llun 6 Mehefin yn Nhŷ Glas y Dorlan, Leadon Court,  Bryn Eithin, Cwmbrân NP44 5TZ
  • Dydd Mercher 8 Mehefin ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, Market Street, Pont-y-pŵl NP4 6JW
  • Dydd Gwener 10 Mehefin yng Nghanolfan Feddygol Blaenafon, Middle Coed Cae Road, Blaenafon NP4 9AW

Mae’r digwyddiadau am ddim a does dim angen apwyntiad.

Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, yr Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai: "Fel cyngor, rydym yn ymwybodol o effaith y cynnydd mewn costau byw ar bobl mewn sefyllfaoedd bregus, fel gofalwyr di-dâl. 

"Mae pobl sy’n gofalu am yr henoed, yr anabl, neu anwyliaid yn debygol o gael eu heffeithio’n anghymesur gan gynnydd mewn biliau bwyd, tanwydd ac ynni heb lawer o ffyrdd o gynyddu eu hincwm. 

"Bydd y sioeau teithiol yn helpu i roi gwybod i ofalwyr am y gefnogaeth ariannol sy’n cael ei chynnig, yn ogystal â’r cymorth lles emosiynol sydd ar gael."

Hyd yn hyn, mae Cyngor Torfaen wedi derbyn 1500 o geisiadau ar gyfer grant gofalwyr di-dâl Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw un a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022 wneud cais am daliad un tro o £500 trwy ymweld â’n gwefan.

Am wybodaeth am gefnogaeth arall sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yn Nhorfaen – neu’r sioeau teithiol – cysylltwch â louise.hook@torfaen.gov.uk, neu dilynwch dudalen Facebook Gofalwyr Oedolion Torfaen.

Am fanylion am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr ifanc, cysylltwch â rebecca.elver@torfaen.gov.uk, neu dilynwch Ofalwyr Ifanc Torfaen ar Facebook. 

Diwygiwyd Diwethaf: 16/06/2023 Nôl i’r Brig