Perllan gymunedol yn cael ei difrodi'n fwriadol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Chwefror 2022

Mae tua 15 o goed ffrwythau ifanc a blannwyd fel rhan o berllan gymunedol newydd wedi cael eu difrodi.

Cafodd gwreiddiau eu difrodi a boncyffion eu torri’n fwriadol yn y digwyddiad ym Mharc Brookland, Pontnewydd, Cwmbrân, ar ddydd Iau 3 Chwefror.

Roedden nhw ymhlith 75 o goed a blannwyd gan Gyngor Torfaen i gymryd lle naw o goed a fydd yn cael eu tynnu ymaith cyn bo hir o ganlyniad i waith ar amddiffynfeydd rhag llifogydd ar y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’n drist clywed bod y coed wedi eu difrodi’n fwriadol.  Mae’r ymddygiad yma’n gwbl annerbyniol. 

“Mae’r coed yma wedi cael eu plannu i helpu natur i ymsefydlu eto unwaith bydd y coed eraill wedi cael eu tynnu i ffwrdd, ac i wneud yr ardal yn lle y bydd y gymuned leol am ymweld ag e yn y dyfodol. Mae’n dorcalonnus bod yna bobl yn rhywle a fyddai’n gwneud hyn.

“Byddwn yn ailosod y coed ond, os bydd y fandaliaeth yma’n parhau, yna efallai bydd rhaid i ni ail-ystyried a pheidio â pharhau i ailosod coed sydd wedi eu difrodi. Dyma’r peth olaf yr ydym am wneud.  Rydym am greu lleoedd bywiog i’n cymuned heb iddyn nhw wedyn gael eu difetha gan ymddygiad ffiaidd llond dwrn o unigolion sy’n awyddus i wneud pethau’n waeth i’n trigolion. 

“Rydym yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus a dweud am unrhyw un sy’n achosi difrod i’r coed.”

Bydd y gwaith ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yn gweld bwnd 1.5m o bridd yn cael ei greu ar hyd ffin Parc Brookland a Cwmbran Drive i amddiffyn trigolion a busnesau lleol rhag llifogydd pan fo cwlfer cyfagos yn blocio neu’n cael ei orlwytho.

Mae o leiaf tri digwyddiad o lifogydd wedi bod ar Cwmbran Drive dros y 20 mlynedd ddiwethaf oherwydd y cwlfer, ac mae cynlluniau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos y gallai 270 o adeiladau ym Mhentre Uchaf, Ysgol Gynradd Maendy, archfarchnad Morrisons, safle’r coleg chweched dosbarth ac unedau diwydiannol mor bell i ffwrdd â Llanfrechfa Way, fod mewn perygl heb waith atgyweirio.

Bwriedir i waith adeiladu’r bwnd ddechrau ar ddydd Llun 21 Chwefror a pharhau am ryw 12 wythnos, ond gallai gymryd yn hirach oherwydd bod y gwaith yn dibynnu ar y tywydd, oherwydd y gwaith yn y nant.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/02/2022 Nôl i’r Brig