Hwyl synhwyraidd yr ŵyl

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 9 Rhagfyr 2022
Sencom staff and kids

Daeth plant sy’n mynychu cylch chware synhwyraidd i’r cylch mewn dillad Nadoligaidd ar gyfer Diwrnod Siwmper Nadolig Achub y Plant. 

Mwynhaodd Cooper ac Aarayah-Hope 2 oed, ac Antoni sy’n dair oed, chwarae gydag amrywiaeth o offer amlsynhwyraidd gyda themâu Nadoligaidd.

Maen nhw ymysg nifer o blant sy’n mynychu Cylch Chwarae Synhwyraidd Little Sparklers i blant cyn oed ysgol sydd â nam ar y golwg, cylch sy’n cael ei rhedeg gan y Gwasanaeth Synhwyraidd a Chyfathrebu, wedi’i leoli yng Nghwmbrân. 

Dywedodd Lorraine Flack, arweinydd chwarae: "Gosodon ni’r ystafelloedd a’r offer iddyn nhw gael ymgysylltu ac er mwyn annog datblygiad synhwyrau’r plant, yn arbennig eu golwg, eu clyw a’u cyfathrebu. Mae gwrthgyferbyniad yn y lliwiau sy’n cael eu defnyddio yn yr ystafelloedd ac ar y llawr er mwyn helpu plant i gael hyd i’w ffordd o gwmpas yr offer ac ardaloedd gwahanol.

"Rydym yn gweithio mewn pum ardal llywodraeth leol ac, yn ystod Covid, roedd rhaid i ni roi sesiynau rhithwir i’r plant, a phan ddaethon ni ‘nôl i’r grwpiau byw, bu rhaid i ni gyfuno rhai o’n grwpiau blaenorol.

"Rydym nawr yn gobeithio datblygu’r grŵp ac, ar ôl y Nadolig, byddwn yn ymestyn amser Grŵp Chwarae Synhwyraidd Little Sparklers fel ei bod yn haws i rieni sy’n gorfod teithio ac fel bod gan y plant fwy o amser yng nghyfleusterau SenCom."

Mae gwasanaeth SenCom, sydd ar gael yn Nhorfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Casnewydd a Chaerffili, hefyd yn darparu cylch chwarae ar gyfer plant â nam ar y clyw, yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol i bobl ifanc rhwng saith a 18 oed sydd â nam ar y clyw. 

Mae’r ganolfan, yn Llantarnam, Cwmbrân, yn cynnwys mannau chwarae dan do ac awyr agored, ystafell synhwyraidd a man chwarae meddal. 

Ddoe, yn ogystal â dathlu Diwrnod Siwmperi Nadolig, cyflwynwyd tystysgrifau i wyth o blant sydd newydd gwblhau cymhwyster Gwobr Gelf gyda Choleg y Drindod, Llundain.

 

Aeth y cwrs â nhw ar daith gelfyddydol wrth iddyn nhw edrych ar ffurfiau gwahanol o gelf, ymchwilio artist a rhannu eu canfyddiadau ag eraill.  

 

Roedd y plant a dderbyniodd dystysgrifau’n cynnwys: 

 

Mai Godfrey, 9 oed, sy’n mynychu Ysgol Y Lawnt yng Nghaerffili

Joseph Hancock, 10 oed, sy’n mynychu Ysgol Gynradd Coed y Brain yng Nghaerffili

Luke Thomas, 12 oed, sy’n mynychu Ysgol Cwm Rhymni yng Nghaerffili

Rubin Morgan, 7 oed, sy’n mynychu Ysgol Gynradd Monnow yng Nghasnewydd

Louise Taylor, 15 oed, sy’n mynychu Ysgol Uwchradd Llyswyry yng Nghasnewydd

Inshal Raza, 13 oed, sy’n mynychu Ysgol Gyfun Sant Julian yng Nghasnewydd

Bailey Taylour, 14 oed, sy’n mynychu Ysgol Uwchradd Islwyn yng Nghaerffili

Jade Pepper, 17 oed sy’n mynychu Ysgol Steiner yng Nghaerdydd

Dywedodd Debra Parry, Arbenigwraig Sefydlu yn SenCom: “Rwy’n falch iawn o’r bobl ifanc yma sy’n wedi cael y wobr yma ac rwy’n edrych ymlaen at gwblhau gwobrau Efydd gyda nhw yn y dyfodol."

 

Am ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Synhwyraidd a Chyfathrebu, danfonwch e-bost at sencom@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01633 648888. Gallwch hefyd ddilyn SenCom South East Wales ar Facebook.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/12/2022 Nôl i’r Brig