Gŵyl Banc Mis Awst - diweddariad

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 16 Awst 2022

Ailgylchu a gwastraff
Ni fydd unrhyw newidiadau i’r dyddiau casglu eleni ar Ddydd Llun Gŵyl Banc (dydd Llun 29 Awst). Rhowch eich gwastraff a’ch deunydd ailgylchu allan ar eich diwrnod casglu arferol.

Bydd y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ yn aros ar agor yn unol ag oriau agor yr haf. Llun - Sadwrn 8am - 5.45pm, a Sul 9am - 5.45pm

Bydd siop ailddefnyddio Steelhouse ar agor fel arfer rhwng 9.30am a 4.30pm bob dydd.

Gofal Cwsmeriaid Torfaen
Mae pob un o’n Canolfannau Gofal Cwsmeriaid ar gau ar ddydd Llun 29 Awst, a byddant yn ailagor ar eu dyddiau a’u horiau arferol ar ôl yr Ŵyl Banc.

Bydd Galw Torfaen yn cau am 5:00pm ar ddydd Gwener 26 Awst ac yn ailagor am 8.30am ddydd Mawrth 30 Awst.

Llyfrgelloedd
Bydd pob llyfrgell ar gau ar y Dydd Llun Gŵyl Banc, ac yn ail agor ar eu dyddiau a’u horiau arferol ar ôl yr Ŵyl Banc.

Mynwentydd
Bydd y mynwentydd ar agor fel arfer i ymwelwyr, ond bydd y swyddfa ar gau.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/08/2022 Nôl i’r Brig