Gwrando

Browsealoud LogoGwrando ar y wefan hon gyda BrowseAloud

Fe all ymwelwyr wrando ar y wefan hon gyda BrowseAloud, sydd yn rhad ac am ddim i ymwelwyr y wefan a gellir ei lawr lwytho’n hawdd o wefan BrowseAloud.

Beth yw BrowseAloud?

Mae BrowseAloud yn sicrhau bod gan y rheini sydd angen cymorth i ddarllen ar lein fynediad i wefannau. Mae hyn yn cyfri am 20% o boblogaeth y DU. Y mae’n gweithio drwy ddarllen tudalennau gwe yn uchel mewn llais sy’n swnio fel llais person. Yn syml, mae’r defnyddiwr yn hofran pwyntydd y llygoden dros y testun i’w glywed yn cael ei ddarllen yn uchel.

Sut olwg sydd ar BrowseAloud?

BrowsealoudToolbar

Ceir mynediad i nodweddion ac opsiynau BrowseAloud o far offer hawdd ei ddefnyddio, bar offer symudol (gweler uchod).Fe allwch leoli’r bar offer unrhyw le ar eich sgrin neu ei guddio o’r golwg, yn ôl eich dewis.

Beth fydd BrowseAloud yn ei wneud i mi?

  • Darllen gwe-dudalennau yn uchel mewn llais clir·
  • Darllen gwe-dudalennau diogel·
  • Darllen ffeiliau PDF a dogfennau Word yn eu fformat gwreiddiol·
  • Amlygu pob gair sydd yn cael ei ddweud i ddangos eich lleoliad ar y dudalen·
  • Chwyddo’r testun i’r maint a’r ffont o’ch dewis·
  • Cyfieithu gair am air rhwng Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg·
  • Chwilio am ddiffiniadau cywir o’r geiriadur·
  • Trosi testun i MP3·
  • Cuddio gwybodaeth ar y sgrin er mwyn eich helpu i ganolbwyntio ar fan penodol

Pwy all BrowseAloud eu cynorthwyo?

Mae BrowseAloud yn cynorthwyo unrhyw ymwelydd ar y wefan sydd angen cymorth i ddarllen ar-lein. Mae hyn yn cynnwys y rheini sydd ag anawsterau dysgu fel dyslecsia, mân namau ar y golwg a’r rheini sydd yn siarad Saesneg fel ail iaith.

Sut ydw i’n lawr lwytho BrowseAloud?

Lawr lwytho BrowseAloud o wefan BrowseAloud.

Os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â Thîm Cymorth BrowseAloud :

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018 Nôl i’r Brig