Cerdyn Gofalwr

Ydych chi’n gofalu am rywun sydd wrth eu bodd yn darllen ond sy’n methu mynd i’r llyfrgell oherwydd eu hiechyd neu anabledd? Allech chi fynd â llyfrau atyn nhw? Os felly, pam na ddewch chi i’ch llyfrgell leol a gwneud cais am Gerdyn Gofalwr?

Gyda Cherdyn Gofalwr gallwch fenthyca cyfanswm o 50 o eitemau i chi ac i’r sawl yr ydych chi’n gofalu amdanynt. Ymhlith y manteision does dim taliadau am ddychwelyd yn hwyr ac mae’r cyfnod cyntaf o 3 wythnos ar gyfer llyfrau llafar am ddim. Am yr wythnosau sy’n dilyn bydd y tâl ar gyfer llyfrau llafar yr un peth â’r arfer.

Os nad ydych chi’n aelod o’r llyfrgell ar hyn o bryd bydd gofyn i chi roi prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llyfrgelloedd Torfaen

Ffôn: 01633 647676

E-bost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig