Safonau Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Torfaen

Ni chodir tâl i ymuno â'n llyfrgelloedd ac maent yn agored i holl aelodau ein cymunedau.

Byddwn yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i'ch helpu.

Byddwn yn sicrhau bod ein llyfrgelloedd yn fannau diogel, deniadol a hygyrch i bobl o bob oed gydag ardaloedd penodol ar gyfer plant a phobl ifanc.

Rydym yn rhoi benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu deunyddiau mewn fformatau sy'n addas i bobl sydd ag amrywiaeth o anghenion darllen. Mae'r rhain yn cynnwys llyfrau print bras, llyfrau llafar, e-lyfrau ac e- gylchgronau. Codir tâl am rai eitemau hwyr. Mae rhestr lawn o ffioedd y llyfrgell ar gael yma.

Os ydych yn ofalwr, byddwn yn anfon cerdyn aelodaeth gofalwr atoch. Bydd hyn yn rhoi'r hawl i chi fenthyg dwbl yr eitemau arferol er mwyn i chi a'r person yr ydych yn gofalu amdano wneud defnydd llawn o'r llyfrgell. Codir tâl am rai eitemau hwyr. Mae rhestr lawn o ffioedd y llyfrgell ar gael yma.

Lle bynnag y bo'n bosibl, byddwn yn sicrhau bod ein stoc yn adlewyrchu'r gwahanol fathau o gyhoeddiadau newidiol.

Rydym yn darparu adnoddau Cymraeg ar gyfer oedolion a phlant ac i gefnogi dysgwyr Cymraeg.

Byddwn yn sicrhau bod gennych fynediad at y deunyddiau darllen diweddaraf, a bod ein stoc wybodaeth yn gywir ac o ffynonellau addas.

Byddwn yn cyhoeddi cyfanswm ein gwariant ar ddeunyddiau yn flynyddol

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth lle bynnag y bo modd er mwyn sicrhau bod y stoc y mae gennych fynediad iddo yn cynrychioli'r gwerth gorau sydd ar gael i drigolion Torfaen.

Bydd gan ein cwsmeriaid fynediad at wasanaeth cais, fydd yn rhad ac am ddim ar gyfer yr holl eitemau y cafwyd hyd iddynt yng Nghymru.

Bydd defnyddwyr llyfrgelloedd yn cael mynediad am ddim i'n cyfrifiaduron cyhoeddus ac i'r Rhyngrwyd, gan gynnwys cyswllt diwifr. Bydd cyfleoedd i bobl ifanc ag oedolion gael mynediad pwrpasol i gyfrifiaduron.

Bydd cyfle i’n cwsmeriaid ddefnyddio adnoddau ar-lein 24 awr y dydd a hynny'n rhad ac am ddim.

Bydd pob cwsmer sy'n defnyddio ein cyfrifiaduron/dyfeisiau mynediad cyhoeddus yn glynu at y polisi defnydd derbyniol.

Rydym yn cadw'r hawl i osod bloc ar y defnydd a wneir gan gwsmeriaid os yw'r defnydd hwn yn groes i'r polisi defnydd derbyniol.

Rydym yn cynnig cymorth sylfaenol i gwsmeriaid sydd am ddefnyddio'r seilwaith TGCh. Mae hyn yn golygu y byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod staff cymwys wrth law, sy'n meddu ar yr arbenigedd priodol i gynorthwyo cwsmeriaid i ddefnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell, cael mynediad at adnoddau electronig, a mynediad i'r rhwydwaith diwifr.

Os na allwn gynnig cymorth ar unwaith, byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y sesiynau galw heibio i ddatblygu sgiliau TG yr ydym yn eu rhedeg bob wythnos ym mhob un o'n llyfrgelloedd, fel y gallwch dderbyn cymorth yno. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda thabledi cyffredinol ac e-ddarllenwyr.

Byddwn yn cefnogi'r sawl sy'n chwilio am waith trwy ddarparu mynediad i Universal Jobmatch, cynorthwyo eu Sgiliau TG a thrwy gynnig allbrintiau a llungopïau am ddim (o fewn rheswm) ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chwilio am waith.

Byddwn yn cefnogi'r sawl sy'n hawlio budd-daliadau drwy ddarparu mynediad at wefannau perthnasol i gynorthwyo'u sgiliau TG, dadgodio i mewn i Saesneg clir a thrwy gynnig llungopïau/allbrintiau am ddim ar gyfer eitemau sy'n ymwneud â hawlio / taliadau (o fewn rheswm). Ni fyddwn yn cynnig cyngor ynghylch budd-daliadau a dylai cwsmeriaid fod yn ymwybodol nad ydym yn gymwys i wneud hynny.

Rydym yn cynnig cymorth i gwsmeriaid o ran datblygu'r gallu i adnabod a chael mynediad i wybodaeth briodol, i werthuso gwybodaeth ac i ddefnyddio'r gallu hwn ym mhob maes o fywyd - fel addysg, cyflogaeth ac iechyd a lles.

Gall y gefnogaeth hon fod yn anffurfiol gydag unigolion neu gall fod trwy weithgareddau grŵp fel ymweliadau dosbarth i ddysgu sgiliau llyfrgell.

Byddwn yn darparu mynediad am ddim i wybodaeth a help gyda'ch ymholiadau.

Mae ein gwasanaethau gwybodaeth yn cynnwys cyfeirio ac atgyfeirio at asiantaethau priodol, sefydliadau, gwefannau, gwasanaethau cyngor ac ati

Rydym yn cynnig i'n cwsmeriaid gwasanaeth gwybodaeth a chymorth mewn perthynas ag iechyd a lles, sydd am ddim, proffesiynol, heb ragfarn, cyfrinachol ac sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

Rydym yn cynnig gwasanaeth Llyfrgell yn y Cartref i ddarparu ar gyfer anghenion cwsmeriaid sydd yn gaeth i’w cartref neu’n methu cyrraedd y llyfrgell mewn modd confensiynol. Darperir y gwasanaeth hwn ar sail asesiad anghenion cychwynnol.

Byddwn yn ymgynghori â defnyddwyr yn rheolaidd i gasglu eu barn ar y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Rydym yn cynnig digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer oedolion a phlant, sy'n cynyddu'u hyder a'u mwynhad o ddarllen ac yn cynnig mwy o ddewisiadau darllen iddynt. Rydym yn cynnig cyfleoedd i bobl rannu eu profiadau darllen a cheisiwn godi statws darllen fel gweithgaredd creadigol. Bydd ein cynnig yn newid dros amser yn ôl yr amgylchiadau ar y pryd ac fe wnawn ein gorau i sicrhau bod cwsmeriaid yn ymwybodol o'r cynnig ar y pryd.

Rydym yn cynnig y cyfle i blant o oed cynradd i gymryd rhan yn Her Ddarllen yr Haf. Mae hyn yn helpu disgyblion i osgoi'r bwlch yn y cyfleoedd i ddarllen dros yr haf ac yn sicrhau bod ganddynt fantais wrth ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/08/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llyfrgelloedd Torfaen

Ffôn: 01633 647676

Ebost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig