Adnoddau Ar-lein rhad ac am ddim

Mae'r rhan hon o'r wefan yn rhoi gwybodaeth i chi am fynediad at nifer o wasanaethau ar-lein allanol.

e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-gylchgronau ac e-bapurau newydd

Mae Llyfrgelloedd Torfaen yn cynnig e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-gylchgronau ac e-bapurau newydd i’w lawr lwytho AM DDIM ar eich tabled, smartphone, gliniadur neu ben-bwrdd. Mae'r adnoddau hyn yn gweithio yn union fel benthyciadau arferol y llyfrgell ond maent yn dychwelyd eu hunain yn awtomatig felly nid oes unrhyw daliadau hwyr. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw cerdyn llyfrgell dilys a'r ap cywir ar gyfer eich dyfais.

e-lyfrau ac e-lyfrau llafar

Mae gwasanaeth BorrowBox yn darparu ystod eang o e-lyfrau ac e-lyfrau llafar yn Gymraeg a Saesneg. Mae llyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael i oedolion a phlant. Gallwch lawr lwytho hyd at 10 e-lyfr a 10 e-lyfr llafar ar unrhyw adeg am gyfnod benthyg o 21 diwrnod.

e- bapurau newydd

Mae gwasanaeth BorrowBox hefyd yn cynnig ystod eang o e-bapurau newydd, yn cynnwys teitlau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae ôl-gopïau ar gael a gall cwsmeriaid danysgrifio i dderbyn y rhifynnau nesaf.

Gallwch ddefnyddio BorrowBox drwy ap ar eich dyfais symudol (ar gael ar gyfer dyfeisiau Apple, Android ac Amazon) neu drwy Wefan BorrowBox Torfaen.

Gallwch lawr lwytho’r ap o App Store neu Google Play Store.  Darllenwch canllaw BorrowBox i gael help i osod yr ap ar ddyfeisiau Amazon Kindle Fire.

e-Gylchgronau

Dros 1000 o gylchgronau i ddewis o'u plith yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau a diddordebau. Nid oes cyfyngiad ar y nifer y gallwch eu lawrlwytho, a gallwch gael mynediad i ôl gopïau hefyd. Lawr lwythwch 24/7 yn uniongyrchol i’ch dyfais symudol drwy ap Libby neu i’ch cyfrifiadur neu Mac drwy wefan Overdrive.

Os oes angen help arnoch i gael hyd i unrhyw rhai o’r adnoddau hyn, beth am alw i mewn i’n sesiynau TG:

  • Llyfrgell Blaenafon
    • Bob dydd Mercher - 14:00 - 16:00
  • Llyfrgell Cwmbrân
    • Bob dydd Mawrth - 14:00 - 15:30
    • Bob dydd Iau - 10:00 - 12:00 a 14:30 - 16:30
  • Llyfrgell Pont-y-pŵl
    • Bob dydd Mawrth - 10:00 - 12:00 

Ymchwil

Mynediad i Ymchwil -  rhydd fynediad am ddim i ystod eang o erthyglau academaidd ac ymchwil mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws y DU. Ymhlith y pynciau mae celf, pensaernïaeth, busnes, peirianneg, hanes, ieithoedd, gwleidyddiaeth, athroniaeth, mathemateg a’r gwyddorau, gyda thua 15miliwn + o erthyglau eisoes ar gael. (Gellir eu cyrchu trwy gyfrifiaduron personol â chysylltiad diwifr yn adeiladau’r llyfrgelloedd yn unig).

Find My Past ac Llinach - Dros 500 o deitlau poblogaidd i ddewis o’u plith yn cynnwys Avengers, Star Trek a Transformers. Llawr lwythwch 24/7 yn uniongyrchol i’ch e-Ddarllenydd, tabled, ffôn clyfar, gliniadur, cyfrifiadur personol neu MAC.

Which? Ar-lein - Canllawiau prynu ac adolygu, y cylchgrawn poblogaidd i ddefnyddwyr ar lein. Mae’r adnodd hon ar gael mewn Llyfrgelloedd yn unig. Gofynnwch i aelod o staff i’ch mewngofnodi.

Byw a Dysgu

Theory Test Pro - Mae Theory Test Pro yn ddynwarediad ar-lein realistig o brofion theori gyrru'r DU i bob categori o gerbydau.  Mae'n cynnwys yr holl gwestiynau swyddogol sydd yn y prawf wedi eu trwyddedu gan y DSA, y bobl sy'n gosod y profion.

Cysylltiadau Defnyddiol

Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o adnoddau electronig tanysgrifedig, yn amrywio o gylchgronnau ysgolheigaidd i wyddoniaduron a phapurau newydd.

Y Brifysgol Agored- Mae OpenLearn, y Brifysgol Agored yn anelu i chwalu'r rhwystrau i addysg drwy gyrraedd miliynau o ddysgwyr o gwmpas y byd, gan ddarparu adnoddau addysgol am ddim ac yn gwahodd pawb i flasu cyrsiau y mae eu myfyrwyr cofrestredig yn eu dilyn - am ddim! Gyda dros 650 o gyrsiau am ddim, wedi eu gwasgaru ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc, gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi.

Llyfrgelloedd Cymru - Dyma eich porth un stop ar gyfer Llyfrgelloedd Cymru - gallwch gael gwybod ynghylch beth sy'n digwydd mewn llyfrgelloedd, chwilio am lyfrau, ymuno ar-lein, dod o hyd i'ch llyfrgell agosaf, holi cwestiynau anodd, darllen adolygiadau llyfrau, a llawer mwy.

Diwygiwyd Diwethaf: 28/11/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llyfrgelloedd Torfaen

Ffôn: 01633 647676
Ebost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig