Sut ydw i'n ymuno?

Mae ymuno â'r Llyfrgell yn syml ac mae aelodaeth am ddim.  Mae angen i chi lenwi ffurflen aelodaeth a dangos dull adnabod cyfredol i wirio eich enw a chyfeiriad. Rhaid i blant dan 16 gael rhiant neu warcheidwad i arwyddo'r ffurflen.  Byddwch yn cael cerdyn llyfrgell y gellir ei ddefnyddio yn holl Lyfrgelloedd Torfaen. Gall aelodau sy'n oedolion holi am Rif Adnabod Personol a fydd yn caniatáu mynediad iddynt at gyfrifiadur a gwasanaethau Rhyngrwyd.   Rhaid i aelodau iau gael caniatâd i gael Rhif Adnabod Personol a defnyddio'r adnoddau hyn.  Gallwch ddefnyddio eich Rhif Adnabod Personol i fewngofnodi i Gatalog y Llyfrgell Ar-lein.  Os ydych yn colli eich cerdyn rhowch wybod i staff y llyfrgell yn syth gan mai chi sy'n gyfrifol am yr eitemau a fenthycwyd arno.  Codir tâl am gerdyn newydd.  Gallwch hefyd Ymaelodi âr Gwasanaeth  Llyfrgell  yma.

Beth allai ei fenthyg o'r llyfrgell?

Unwaith y byddwch yn aelod gallwch fenthyg llyfrau, llyfrau llafar, e-lyfrau ac e-lyfrau llafar o bob un o lyfrgelloedd Torfaen a'u dychwelyd i unrhyw gangen. Gallwch fenthyg hyd at 20 llyfr ar y tro. Yn ogystal, gallwch fenthyg 10 e-lyfr a 10 e-lyfr llafar.

Faint fydd y gost?

Gallwch fenthyca llyfrau am ddim, ond codir tâl i logi llyfrau llafar. Mae consesiynau ar gael ac mae cwsmeriaid sydd wedi cofrestru y mae ganddynt nam ar eu golwg, yn cael y cyfnod benthyciad cyntaf yn rhad ac am ddim. Mae ein holl e-lyfrau hefyd yn rhad ac am ddim i'w benthyg. Mae rhestr lawn o brisiau'r llyfrgell ar gael yma.

Am faint gaf i gadw eitemau?

Am faint gaf i gadw eitemau?
EitemMath o EitemCyfnod BenthygMath o Fenthyciad
Llyfrau

Llyfr

21 dydd

Benthyg

Llyfrau Llafar

Clyweledol

21 dydd

Benthyg

e-lyfrau

Lawrlwythiadau

21 dydd

Lawrlwythiadau (dychweliadau awtomatig)

e-lyfrau llafar

Lawrlwythiadau

21 dydd

Lawrlwythiadau (dychweliadau awtomatig)

Os ydych yn mynd ar wyliau rhaid i chi ofyn i fenthyg eich llyfrau am gyfnod hirach nag arfer er mwyn osgoi poeni am eu dychwelyd ar amser. Noder: Gall eitemau gan awdurdodau eraill (trwy'r gwasanaeth benthyg rhwng llyfrgelloedd) fod am gyfnodau benthyg sydd wedi eu pennu gan yr awdurdod benthyg.

Beth ddylwn ei wneud os wyf am gadw eitemau am fwy o amser?

Gallwch adnewyddu’ch llyfrau yn unrhyw rhai o’n llyfrgelloedd, dros y ffôn neu ar-lein. Gallwch adolygu eich cyfrif ac adnewyddu eitemau 24 awr y dydd trwy gyfrwng Catalog y Llyfrgell. Ni ellir adnewyddu eitemau os ydynt wedi eu cadw gan berson arall. Fel arfer ni ellir adnewyddu eitemau yr ydych wedi talu i'w llogi. Os oes eu hangen am gyfnod hirach na'r cyfnod llogi arnoch, bydd tâl llogi ychwanegol ar y raddfa arferol yn cael ei godi.

Beth arall all y llyfrgell ei gynnig i mi?

Mae gan Lyfrgelloedd Torfaen lawer i'w gynnig - beth bynnag yw eich diddordebau!

Mae gwasanaethau llungopïo ar gael yn llyfrgelloedd Cwmbrân a Phont-y-pŵl

Mae ein holl lyfrgelloedd yn cynnig defnydd cyfrifiadur am ddim, yn cynnwys mynediad i'r Rhyngrwyd ac amryw o wasanaethau ar-lein, defnydd ebost a rhaglenni Microsoft Office. Mae croeso i blant ddefnyddio ein hadnoddau cyfrifiadur. Gallant bori'r we a gyda chaniatâd rhiant neu ofalwr.

Mae Llyfrgelloedd Torfaen hefyd yn cynnig adnoddau di-wifr am ddim.

Cynhelir nifer o weithgareddau a digwyddiadau yn Llyfrgelloedd Torfaen yn cynnwys:

  • Amser stori ac odli
  • Gweithgareddau gwyliau
  • Mae dewis o gemau bwrdd i oedolion a phlant ar gael yn Llyfrgell Cwmbrân
  • Cymorth gwaith cartref yn cynnwys argraffu am ddim o fewn reswm
  • Grwpiau llyfrau i blant ac arddegwyr
  • Grŵp Iaith Gymraeg
  • Grwpiau darllen
  • Grwpiau Sgwennu
  • Grwpiau crefft
  • Clybiau Lego
  • Arddangosfeydd ac arddangosiadau

Cysylltwch â'r Llyfrgell am fanylion digwyddiadau cyfredol.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llyfrgelloedd Torfaen

Ffôn: 01633 647676

Ebost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig