Her Ddarllen yr Haf

Cynhelir Her Ddarllen yr Haf mewn llyfrgelloedd bob blwyddyn yn ystod gwyliau'r haf. Mae'n llawer o hwyl ac yn uchafbwynt y gwyliau i filoedd o blant, ond mae hefyd yn helpu i sicrhau nad yw sgiliau darllen yn dioddef yn ystod gwyliau hir yr haf. Mae plant sy'n cymryd rhan yn yr Her yn dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi yn ddarllenwyr mwy rhugl, hyderus a hapus.

Mae cymryd rhan yn hawdd ac mae'n hollol RAD AC AM DDIM. Nod yr Her yw i blant  ddarllen chwech neu ragor o lyfrau llyfrgell o'u dewis yn ystod yr haf ac i mewn i fis Medi. Gallant ddarllen unrhyw lyfrau maent yn eu hoffi: llyfrau ffeithiau, straeon, llyfrau jôcs, llyfrau lluniau - lyfrau sain ac e-lyfrau hefyd! Cyn belled ag y maent yn cael eu benthyg o'r llyfrgell, maent i gyd yn cyfrif.

Mae yna sticeri a gwobrau eraill i’w casglu ar hyd y ffordd – y cyfan oll AM DDIM.

A nawr, drwy gydol y flwyddyn, mae gwefan Her Ddarllen yr Haf yn eich helpu i gadw cofnod o’ch darllen, dod o hyd i lyfrau newydd i’w darllen a chymryd rhan mewn cystadlaethau a chwarae gemau.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llyfrgelloedd Torfaen

Ffôn: 01633 647676

E-bost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig