Grwpiau Llyfrau, Digwyddiadau a Gweithgareddau

Nod grwpiau darllen i blant a phobl ifanc yw ysbrydoli pobl ifanc i ddarllen yn anturus, datblygu hyder mewn mynegi eu barn – a chael amser braf yn darllen a thrafod llyfrau! Mae’r cyfranogwyr yn cael hwyl yn y sesiynau, ac yn eu canfod yn gyfeillgar, yn gymdeithasol ac yn meithrin hyder.

Beth am ddod draw i un o'n grwpiau i roi cynnig ar straeon newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau crefft?

Ar hyn o bryd mae gennym glybiau ‘Clonclyfrau’ ar gyfer plant 7- 11 oed a grwpiau darllen 11+ yn ein llyfrgelloedd.

Mae'r clybiau a'r grwpiau darllen hyn yn rhedeg bob pedair wythnos, cysylltwch â'ch llyfrgell leol i ddarganfod mwy. Mae lleoedd cyfyngedig ar gael felly cofrestrwch cyn hir!

Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llyfrgelloedd Torfaen

Ffôn: 01633 647676

E-bost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig