Gwasanaeth Cymorth a Gwybodaeth ar Iechyd a Lles

Mae Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Torfaen yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth ar iechyd a lles sy'n darparu:

  • Taflenni ac adnoddau eraill
  • Llyfrau a CDd clywedol i’w benthyg
  • Mynediad am ddim i’r rhyngrwyd
  • Sesiynau rhannu darllen a darllen un i un

Anelwn i ddarparu ffynhonnell gymorth, drwy helpu gyda’r holl bethau y mae pobl eu hangen a’u heisiau i deimlo’r gorau y gallant.

P'un a oes gennych ymholiad am gyfleusterau iechyd lleol (Gwasanaethau GIG lleol, grwpiau cleifion), neu faterion iechyd (cyflyrau, triniaethau, cymorth a chefnogaeth leol) neu os ydych chi am fwyta'n fwy iach neu roi'r gorau i ysmygu, gallwn ni helpu.

Nid oes rhaid i'ch ymholiad fod amdanoch chi, efallai eich bod chi'n gofalu neu efallai bod gennych chi bryderon am berthynas neu ffrind.

Os oes angen:

  • Rhywun i siarad ag ef
  • Help i ddod o hyd i wybodaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd, a'i deall
  • Cael eich cyfeirio at sefydliadau eraill
  • Ymwybyddiaeth o grwpiau cymorth lleol
  • Mynediad dan arweiniad i adnoddau TG a safleoedd rhyngrwyd

... mae ein gwasanaeth ar eich cyfer chi!

Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Llyfrgelloedd Torfaen

Ffôn: 01633 647676

Ebost: cwmbran.library@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig