Cronfa Llandegfedd

Cronfa Llandegfedd
  • Lleoliad:Pontypool

Wedi ei lleoli mewn lleoliad gwledig, 15 munud yn unig o'r M4. Ailddatblygwyd cyfleusterau yn Llandegfedd yn 2014 i gynnwys canolfan ymwelwyr a chanolfan chwaraeon dŵr newydd sbon a agorodd i'r cyhoedd ar 1 Ebrill 2015. Mae'r cyfleuster chwaraeon dŵr newydd yn cynnwys ystafelloedd newid, cawodydd, man storio a siop ar y llawr gwaelod gyda swyddfa ac ystafell gyfarfod aml-ddefnydd yn ogystal â balconi mawr ar y llawr cyntaf. Mae'r ganolfan ymwelwyr yn cynnwys caffi gyda gwydr o'r llawr i'r nenfwd sy'n cynnig golygfa heb ei hail dros y gronfa ddŵr a'r gweithgareddau sy'n mynd ymlaen yno. Mae siop anrhegion fechan ar y llawr gwaelod y gellir ei chyrraedd drwy risiau neu lifft o'r caffi. Mae mannau parcio ar gyfer y ganolfan ymwelwyr a'r llwybrau cerdded yn y prif faes parcio cyhoeddus sy'n edrych dros y gronfa ddŵr tra bod parcio i'r anabl ar gael wrth ymyl y siop. Mae mannau parcio ar y safle hwn ar gyfer pysgotwyr a'r rheini sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr yn unig oherwydd y nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Mae llwybr cerdded cylchol yn agored o fis Mawrth i fis Medi gyda theithiau cerdded eraill ar gael yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae’r gronfa ddŵr yn cau i weithgareddau fel pysgota, hwylio a gweithgareddau eraill rhwng Tachwedd a Chwefror  ond mae’r caffi a’r siop ar agor drwy’r flwyddyn ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan.

  • Mynedfa i’r Anabl:Na
  • Addas i Ymweliadau Addysgol:Na
  • Addas i Grwpiau:Na
  • Addas i Deuluoedd:Na
Manylion Cyswllt
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018 Nôl i’r Brig