Amgueddfa Gymunedol Blaenafon

  • Lleoliad:Blaenafon

Wedi'i lleoli yn Neuadd y Gweithwyr ysblennydd a'i rhedeg gan dîm o wirfoddolwyr cyfeillgar, mae Amgueddfa Gymunedol Blaenafon yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol arobryn Blaenafon a meysydd glo de Cymru..

Mae’r amgueddfa yn arddangos amrywiaeth o arddangosfeydd sy’n helpu i egluro cymdeithas Blaenafon yn y 19eg a’r 20fed ganrif.

Ymhlith yr arddangosfeydd mae arteffactau'n ymwneud â:

  • Adloniant, Chwaraeon a Hamdden
  • Eglwysi a Chapeli
  • Corau a Cherddoriaeth
  • Undebau Llafur
  • Cymdeithasau Cyfeillgar
  • Siopau a Busnesau
  • Arwyr Lleol y Rhyfeloedd
  • Ysgolion Lleol

Mae'r amgueddfa hefyd yn ymfalchïo mewn casgliad yn ymwneud â'r teulu Kennard, a wasanaethodd fel Cyfarwyddwyr Cwmni Haearn a Glo Blaenafon yn ystod y 19eg ganrif. Roedd aelodau o'r teulu yn ffigyrau dylanwadol yn niwydiannau haearn Prydain Fawr a chyfandir Ewrop.

Hefyd yn cael eu harddangos, mae effeithiau personol y nofelydd enwog Alexander Cordell (1914-1997), awdur y llyfr enwog Rape of the Fair Country (1959).

Mae gan yr amgueddfa archifau hanes teulu a hanes lleol helaeth. Gellir trefnu ymchwil yn gyfnewid am rodd. Mae'r gwirfoddolwyr hefyd yn cynnal sesiynau hanes teulu wythnosol AM DDIM ar y cyd â Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a'r Llyfrgell (dydd Iau, 10 am-1pm).

Gellir trefnu oriau agor y tu allan i oriau agor arferol, os yw'r gwirfoddolwyr ar gael.

  • Mynedfa i’r Anabl:Na
  • Addas i Ymweliadau Addysgol:Na
  • Addas i Grwpiau:Na
  • Addas i Deuluoedd:Na
Manylion Cyswllt
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018 Nôl i’r Brig