Os ei di af i

#oseidiafi yw ein hymgyrch newydd i annog menywod ledled Torfaen i fod yn fwy egnïol yn fwy aml.

Mae manteision mawr i fyw bywyd iach a mwy egnïol, ond nid yw'n digwydd ar unwaith ac nid yw bob amser mor hawdd ag y mae'n ymddangos mewn cylchgronau, cyfryngau cymdeithasol neu ar y teledu. Bydd ein hymgyrch yn ymgysylltu â menywod yn Nhorfaen, nodi'r rhesymau sy'n ei gwneud yn anodd iddynt gymryd rhan mewn ymarfer corff rheolaidd a gyda chymorth a chefnogaeth pawb, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael gwared arnynt.

Fel rhan o’r ymgyrch hwn byddwn yn:

  • Gwrando ar fenywod sydd am fod yn fwy egnïol, deall y rhesymau pam nad ydynt yn gwneud cymaint o weithgarwch ag y byddent yn ei hoffi.
  • Siarad am ymarfer corff, nid chwaraeon yn unig – nid yw pawb eisiau bod yn gystadleuol, ond ni ddylai hynny eich atal rhag cymryd rhan mewn ymarfer corff rheolaidd.
  • Dangos fod ymarfer corff yn 'norm' i fenywod o bob oedran, maint, ffydd a chymunedau.
  • Hyrwyddo’r lle iawn, amser iawn, dillad iawn, cwmni iawn, fel ein bod yn chwalu’r rhwystrau gyda’n gilydd.
  • Sicrhau bod y gefnogaeth gywir yno er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau’n derbyn cefnogaeth dda a’u bod wedi’u trefnu’n dda.
  • Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Megan Parker, fydd yn hapus i’ch rhoi ar ben y ffordd.
  • Gallwch hefyd ddod o hyd i #oseidiafi ar Facebook, Instagram, Twitter a Pinterest
Diwygiwyd Diwethaf: 21/06/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Datblygu Chwaraeon

Tel: 01633 628936

Nôl i’r Brig